Mae Trafnidiaeth Cymru’n cyfaddef eu bod nhw’n gweithredu’n groes i Safonau’r Gymraeg yn sgil cyhoeddiadau uniaith Saesneg, gan ddweud bod ganddyn nhw “gynllun yn ei le” i ddatrys y sefyllfa.

Roedden nhw’n ymateb i Dilwyn Ellis Roberts, oedd wedi tynnu sylw ar X (Twitter gynt) at gyhoeddiadau uniaith Saesneg ar drên rhwng Caerdydd a Phontypridd.

“Ar y tren o Ferthyr i Pontypridd – cyhoeddiadau uniaith Saesneg! Beth oedd yr holl addewidon am wasanaeth dwyieithog?” meddai.

Safonau’r Gymraeg

Mark Drakeford, cyn-Brif Weinidog Cymru, sydd bellach yn gyfrifol am y Gymraeg ac felly’r Safonau.

Mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan eisoes wedi dweud y bydd y Safonau’n parhau o dan ei harweinyddiaeth hi, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o hynny.

Rheolau sy’n gorfodi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus Cymraeg yw’r Safonau, ddaeth i rym yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Bwriad y Safonau yw cynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg a’u gwella, a gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus o ran y Gymraeg.

Ymateb Trafnidiaeth Cymru

Yn ôl ymateb Trafnidiaeth Cymru, mae’n ymddangos bod cyhoeddiadau uniaith Saesneg yn dal i fod ar eu hen drenau.

“Hiya Dilwyn, rydym yn ymwybodol bod ein trenau hyn yn unieithog, a bod hyn yn mynd yn erbyn safonau’r iaith Gymraeg,” meddai’r ymateb gan gyfrif X Trafnidiaeth Cymru Trenau.

“Mae gennym gynllun yn ei le i ddatrys hyn.

“Mae pob trên newydd sydd gennym efo cyhoeddiadau dwyieithog.

“Ymddiheuriadau am unrhyw siom achoswyd.”