Mae’r rheithgor wedi cael ei rhyddhau o achos llys merch 14 oed sydd wedi’i chyhuddo o drywanu dwy athrawes a chyd-ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd Fiona Elias, Liz Hopkin a’r disgybl eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar dir yr ysgol yn Rhydaman ar Ebrill 24.

Mae’r ferch, nad oes modd ei henwi, wedi cyfaddef iddi drywanu’r tair, ond mae hi’n gwadu ceisio’u llofruddio nhw.

Cafodd y rheithgor eu hanfon allan brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Hydref 8) i ddechrau ystyried eu dyfarniad, ac roedd disgwyl i’r trafodaethau barhau heddiw (dydd Mercher, Hydref 9).

Ond yn sgil yr hyn gafodd ei alw’n “afreoleidd-dra mawr” gan y barnwr Paul Thomas, mae’r rheithgor wedi cael mynd adref o Lys y Goron Abertawe, gyda’r achos wedi dod i ben.

Mae’r barnwr wedi mynegi ei “anfodlonrwydd” ynghylch y sefyllfa.

Mae disgwyl i achos newydd ddechrau ar Ionawr 27.

Ymateb Heddlu Dyfed-Powys

Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod yr achos yn dal yn fyw, ac felly na fyddai’n briodol iddyn nhw wneud sylw.

Ond maen nhw’n “atgoffa pobol nad oes modd enwi’r merch yn ei harddegau sydd wedi’i chyhuddo o dri achos o geisio llofruddio, am resymau cyfreithiol”.

Maen nhw hefyd yn gofyn i bobol beidio â cheisio dyfalu manylion yr achos ac i beidio â rhannu deunydd allai ddylanwadu ar yr achos.