Mae 420,000 o bobol – gan gynnwys 110,000 o blant – yn wynebu caledi a mynd heb fwyd, yn ôl rhybudd gan y Trussell Trust.
Mae ffigurau’r elusen wrth-dlodi’n uwch nag erioed, ac yn cynrychioli cynnydd o 16% ar gyfraddau ugain mlynedd yn ôl.
Mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno polisïau fydd yn gwrthdroi’r sefyllfa hon.
Adroddiad newydd
Daw ffigurau’r elusen yn sgil adroddiad newydd gafodd ei baratoi ar y cyd â WPI Economics, sy’n arbenigwyr ar bolisi economaidd a chyhoeddus.
Mae’r ddau gorff wedi dadansoddi data’r llywodraeth er mwyn amcangyfrif y niferoedd sy’n byw’n bell o dan y llinell dlodi ac sydd mewn perygl o orfod defnyddio banciau bwyd.
Yn ôl yr adroddiad, mae 17% o blant Cymru – neu un ym mhob chwe phlentyn – yn cael eu magu’n wynebu caledi a diffyg bwyd.
Yn ogystal, mae 210,000 o’r 420,000 sy’n dioddef yn dod o deuluoedd lle mae rhywun yn gweithio, ac mae 230,000 yn dod o deuluoedd sydd â rhywun ag anabledd.
Mae Charlotte yn un o’r rhai gyfrannodd at yr adroddiad ac sydd wedi profi caledi a diffyg bwyd.
“Does gennych chi ddim opsiynau,” meddai.
“Prin fod gennych chi ddigon i fyw arno o fis i fis ac, yn sicr, does dim posibilrwydd o gynilo a chael rhywbeth wrth gefn.
“Pe bai pethau’n mynd o chwith, does dim ffordd o’u datrys.”
Newidiadau polisi
Yn ôl yr elusen, mae atebion polisi ar gael i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn lliniaru’r sefyllfa.
Mae modelau’r elusen yn awgrymu y gallai diweddaru’r system nawdd gymdeithasol olygu bod miloedd yn llai o bobol yn wynebu’r trafferthion hyn.
Mae’r elusen yn awyddus i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno Gwarant Hanfodion fel rhan o’u Credyd Cynhwysol, ac felly sicrhau bod y system fudd-daliadau sylfaenol yn cynnwys yr holl arian sydd ei angen ar gyfer hanfodion byw.
Mae’n bosib y byddai 105,000 yn llai o bobol yng Nghymru’n wynebu caledi a diffyg bwyd yn 2025/26 yn sgil y newid hwn.
Yn ogystal, pe bai’r Llywodraeth yn San Steffan yn cyflwyno mesurau i gynyddu cymorth i blant, gan gynnwys dileu’r cap budd-daliadau dau blentyn dadleuol, mae’n bosib y byddai 25,000 yn llai’n dioddef erbyn 2025/26.
Mae’r elusen hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’u polisïau cymorth argyfwng ac i sicrhau bod pawb sy’n gymwys am gymorth ariannol yn ei dderbyn. Maen nhw’n honni bod nifer sy’n wynebu caledi annisgwyl megis digartrefedd yn cael eu hesgeuluso gan y polisïau presennol.
“Rydyn ni’n annog y Prif Weinidog newydd i flaenoriaethu dod â’r angen am fanciau bwyd i ben,” meddai Katie Till, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Trussell Trust.
“Byddai cynllun i fynd i’r afael â chaledi a mynd heb fwyd yng Nghymru yn rhoi ffocws clir ar yr hyn sy’n sbarduno niferoedd cynyddol o bobol i ddefnyddio banciau bwyd ac yn datgloi’r datrysiadau polisi mwyaf effeithiol i leihau nifer y bobl sy’n cael eu cadw mewn tlodi yng Nghymru.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.