Mae 92% o aelodau Undeb y PCS (Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol) wedi pleidleisio o blaid parhau i weithredu’n ddiwydiannol yn erbyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Daw hyn o ganlyniad i bolisi sy’n gorchymyn bod rhaid iddyn nhw weithio yn y swyddfa 20% o’r amser.
Gall hyn olygu y bydd gweithwyr mewn nifer o swyddfeydd ar draws gwledydd Prydain yn mynd ar streic, gan gynnwys y rhai yn swyddfa fwya’r sefydliad yng Nghasnewydd.
“Ddaru’r rheolwyr addo i staff yn gyson na fydd dim newidiadau i amodau gweithio yn y swyddfa neu o adra,” meddai Darren Williams, sy’n cynrychioli’r undeb, wrth golwg360.
“A hynny er bod y Gwasanaeth Sifil wedi cychwyn cyflwyno polisi bod rhaid bod yn y swyddfa am hyn a hyn o amser yr wythnos.”
Ond yn ôl yr undeb sy’n cynrychioli’r gweithwyr, roedd hyn wedi newid fis Tachwedd diwethaf, a bellach mae gan y gweithwyr ddyletswydd i fynd i’r swyddfa o leiaf 20% o’r amser.
“Ddaru nifer o weithwyr i’r Swyddfa Ystadegau wneud penderfyniadau ar yr amod y bydden nhw’n gallu gweithio gartref pryd bynnag roedden nhw’n dewis bod rhaid,” meddai Darren Williams.
“Penderfyniadau fel lle maen nhw’n byw, gofal plant ac yn y blaen.”
Dywed nad yw’r undeb yn llwyr wrthwynebus i weithio yn y swyddfa, ond fod eu haelodau’n “haeddu’r rhyddid i allu gwneud y penderfyniad”.
“Negeseuon cymysg” gan y Llywodraeth Lafur
Ers y pandemig, mae nifer o’r gweithlu wedi dod i arfer â gweithio gartref neu yn y swyddfa, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.
Ond mae agweddau tuag at y math yma o weithio wedi cael eu beirniadu’n gyhoeddus, gyda’r cyn-aelod seneddol Jacob Rees-Mogg yn gadael nodyn i weision sifil pan doedden nhw ddim yn gweithio yn y swyddfa.
“Mae hyn yn esiampl o ymagwedd y Llywodraeth Geidwadol tuag at weithio’n rhithiol,” meddai Darren Williams.
“Rydym yn gobeithio gyda’r Llywodraeth newydd Lafur y bydd yna newid polisi ar hyn.”
Ychwanega fod yna ansicrwydd ynghylch agwedd Syr Keir Starmer a’i lywodraeth at weithio’n rhithiol.
“Rydym yn clywed negeseuon gwahanol,” meddai.
“Mae rhai gweinidogion, fel Rachel Reeves, yn dweud eu bod nhw’n hapus efo’r polisi 20% sy’n bodoli ers y Ceidwadwyr.
“Ond wedyn, rydym yn clywed gan lefarydd i Keir Starmer fod o’n tueddu i ffafrio rhoi’r dewis i weithwyr.”