Heddiw (dydd Mercher, Hydref 9), bydd Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd ac Islwyn yn galw ar Lywodraeth San Steffan i “flaenoriaethu ac arwain” ar ran anifeiliaid.
Bydd Ruth Jones yn arwain dadl fydd yn nodi 200 mlynedd ers sefydlu elusen anifeiliaid yr RSPCA.
Ar drothwy’r ddadl, dywed Ruth Jones fod yr RSPCA “wedi ysbrydoli mudiad, ac wedi’n hysgogi ni i ddod yn genedl sy’n caru anifeiliaid”.
“Mae’n anrhydedd cael arwain dadl yn San Steffan i nodi 200 mlynedd ers sefydlu’r corff, ac i hyrwyddo lles anifeiliaid yn y senedd,” meddai.
Ers sefydlu’r RSPCA yn 1824, mae pwysau gan y corff wedi arwain at fwy na 400 o ddeddfau amrywiol yn amddiffyn lles anifeiliaid.
Dan gyngor yr RSPCA, pasiodd San Steffan waharddiad ar greulondeb i gŵn yn 1835, y ddeddfwriaeth gyntaf i amddiffyn holl anifeiliaid y wlad yn 1911, a deddf yn cydnabod synhwyriaeth rhai anifeiliaid yn 2021.
Serch hynny, mae’r elusen yn rhybuddio bod anifeiliaid y Deyrnas Unedig yn dal i wynebu llu o broblemau, gan gynnwys sgil-effeithiau newid hinsawdd, colli cynefinoedd gwyllt, a thlodi perchnogion ers dechrau’r argyfwng costau byw.
Galw am gynllun gweithredu
Mae’r RSPCA yn galw ar i Gynllun Gweithredu dros Anifeiliaid newydd y Llywodraeth gael ei flaenoriaethu, ac iddo ganolbwyntio ar bennu arferion megis cloi anifeiliaid fferm mewn cewyll, a mewnforio cŵn bach.
Yn ogystal, maen nhw’n gofyn am broses drosglwyddo oddi wrth arbrofi ar anifeiliaid, ac i gydlynu deddfau cymhleth ar fywyd gwyllt.
Mae’r elusen hefyd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddilyn trywydd Senedd Cymru mewn sawl man, megis gwahardd coleri trydan ar gathod a chŵn, a phennu’r defnydd o faglau.
“Mae cymaint o hyd sydd angen i ni ei gyflawni ar gyfer anifeiliaid, ac wrth i ni wynebu’r heriau yma rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yn rhagweithiol ac yn uchelgeisiol,” meddai llefarydd ar ran yr elusen.
“Mae cyfle gan y Llywodraeth newydd i hyrwyddo polisïau fydd â dylanwad rhyngwladol, hefyd… Mae’n hanfodol fod lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth newydd – i anifeiliaid, ac i holl fodau dynol y byd hefyd.”
Mae hi wedi diolch i Ruth Jones am gyflwyno’r ddadl yn San Steffan, fydd yn cael ei thrafod am 9:30yb fore heddiw.
‘Rhaid i ni fynd ymhellach’
“Mae’n rhaid i ni fynd ymhellach er mwyn i Brydain fod y gorau y gall fod i anifeiliaid, ac rwy’n galw ar bawb sy’n berchen ar anifail anwes neu sy’n caru anifeiliaid i chwarae eu rhan,” meddai Ruth Jones.
Yn ôl ffigyrau’r RSPCA, mae 85% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn credu y dylai lles anifeiliaid fod wedi’i amddiffyn yn ddeddfwriaethol.
Yn ystod y flwyddyn nesaf, i ddathlu pen-blwydd yr elusen yn 200 oed, maen nhw’n gobeithio ysbyrydoli mudiad o hyd at filiwn o bobol i wella lles anifeiliaid.