Mae angen i Lafur gadw at eu haddewid i roi cyllid ychwanegol tuag at addysg, yn ôl Plaid Cymru.
Yn eu maniffesto cyn Etholiad Cyffredinol 2024, fe wnaeth Llafur Cymru ddweud y bydden nhw’n cynyddu cyllid i’r sector ac yn mynd i’r afael â heriau ehangach sy’n wynebu’r maes, pe baen nhw’n cael eu hethol.
Er gwaethaf addewidion y byddai dwy lywodraeth Lafur, yng Nghymru ac yn San Steffan, yn cydweithio, mae’n ymddangos bod yn well gan Lywodraeth Cymru feio awdurdodau lleol am eu methiannau na sicrhau’r gorau i Gymru, medd Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae adroddiad gan undeb arweinwyr ysgolion NAHT wedi canfod fod ysgolion Cymru’n wynebu “argyfwng ariannol dirdynnol”, gyda thoriad o 6% mewn gwariant fesul disgybl.
‘Methu â chyflawni addewidion’
Yn ôl Cefin Campbell, llefarydd addysg Plaid Cymru, mae Llywodraeth Cymru “wedi blino ac allan o syniadau” er mwyn trwsio’r system addysg, ac yn osgoi atebolrwydd.
Bydd Plaid Cymru’n codi’r mater yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Hydref 9), ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddweud faint yn fwy o athrawon fydd yn cael eu hariannu drwy addewid Llafur yng Nghymru, a phryd fyddan nhw’n dechrau dysgu dosbarthiadau.
“O dan Lafur, mae safonau addysg wedi gostwng, mae ysgolion yn ei chael hi’n anodd yn ariannol, mae targedau i recriwtio athrawon uwchradd wedi’u methu ers bron i ddegawd ac, yn syml, nid yw disgyblion yn dysgu’r pethau sylfaenol sydd eu hangen er mwyn iddyn nhw lwyddo.
“Ond yn hytrach na gweithredu’n gyflym i fynd i’r afael â’r materion hyn, mae Llafur yn cilio oddi wrth atebolrwydd a hyd yn oed yn methu â gweithredu atebion cyflym i wella lefelau llythrennedd.
“Er gwaethaf addewid am ddwy lywodraeth Lafur yn cydweithio er budd Cymru, mae’n ymddangos bod yn well gan Lywodraeth Lafur Cymru dawelu’r dyfroedd yn y Blaid Lafur a rhoi’r bai ar awdurdodau lleol am eu methiannau na sicrhau’r gorau i Gymru.
“Hyd yn hyn, maen nhw wedi methu â chyflawni eu haddewidion i gynyddu cyllid i addysg.”
Ychwanega y bydd Plaid Cymru “wastad yn sefyll dros fuddiannau gorau Cymru a mynnu model ariannu teg i fuddsoddi mewn addysg”.
“Rydyn ni’n glir fod angen i ni fynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio a chadw yn ein hysgolion drwy fynd i’r afael â phwysau llwyth gwaith; cymryd camau ar unwaith i ddiweddaru canllawiau llythrennedd Llywodraeth Cymru; ac i ariannu ysgolion drwy sicrhau model ariannu teg o San Steffan,” meddai.
‘Cynyddu cyllid awdurdodau lleol’
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi cynyddu cyllid llywodraeth leol ac wedi blaenoriaethu cefnogaeth i ysgolion.
“Rydym yn cydnabod bod ysgolion ac awdurdodau lleol dan bwysau sylweddol, ac nad oes atebion hawdd i ddatrys y materion sy’n cael eu hwynebu,” meddai llefarydd ar eu rhan.
“Mae penderfyniadau ar lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion a gwasanaethau eraill yn cael eu gwneud gan awdurdodau lleol unigol.
“Rydym wedi cynyddu cyllid llywodraeth leol ac wedi blaenoriaethu cefnogaeth i ysgolion, gan ganolbwyntio ar ardaloedd sydd o dan y pwysau mwyaf.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n dysgwyr.”