Mae athro Chwaraeon yn Ysgol Bro Teifi wedi’i gael yn euog o ymosod ar ddisgybl ar noson allan yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Llŷr James, sy’n 31 oed, wedi’i gael yn euog o ymosod ar Llŷr Davies, disgybl 16 oed, yng Nghastell Newydd Emlyn ar Fawrth 9.

Bu farw’r disgybl dridiau’n ddiweddarach yn dilyn digwyddiad arall yn chwarel Gilfach ger Efailwen, nad oedd yn gysylltiedig â’r ymosodiad.

Fe blediodd yr athro’n ddieuog i’r cyhuddiad yn ei erbyn, ond cafwyd e’n euog gan ynadon Llanelli.

Mae’r achos wedi’i ohirio tan Hydref 25.