Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cymorth newydd i gynnal cerbydau trydan yn y brifddinas.

Dan gynllun y Cyngor, bydd hyd at 100 yn fwy o fannau gwefru’n cael eu gosod dros y ddwy flynedd nesaf, ar strydoedd neu mewn meysydd parcio cyhoeddus.

Mae’r awdurdod lleol yn disgwyl cynnydd hefyd yn nifer y safleoedd cyhoeddus nad ydyn nhw dan reolaeth y Cyngor lle mae mannau gwefru ar gael, gan gynnwys meysydd parcio mewn ardaloedd masnachol.

Mae disgwyl y bydd 600 i 700 o fannau gwefru yn hygyrch i’r cyhoedd yn y brifddinas erbyn 2027, sy’n gynnydd sylweddol o’r 200 sydd gan Gaerdydd ar hyn o bryd.

Strategaeth

Mae’r cynlluniau’n rhan o strategaeth y Cyngor i drosglwyddo systemau trafnidiaeth y brifddinas tuag at gerbydau trydan yn wyneb newid hinsawdd.

Mae hyn ar sail gwybodaeth sy’n awgrymu bod 41% o allyriadau carbon presennol Caerdydd yn deillio o’r sector trafnidiaeth.

Y bwriad ydy gosod y mannau gwefru newydd mewn ardaloedd yn y ddinas sydd heb lawer o lefydd parcio oddi ar y stryd, gan gynnwys y Mynydd Bychan, Gabalfa, Cathays, y Rhath, Adamsdown, Treganna, Trelluest (Grangetown), a Thre-biwt.

Byddan nhw’n cael eu darparu, eu gweithredu, a’u cynnal heb unrhyw gost net i’r Cyngor, drwy bartneriaeth â’r sector preifat.

Yn ôl y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth ar Gyngor Caerdydd, “gyda mwy a mwy o bobl yn gwneud dewisiadau mwy gwyrdd fel newid i gerbyd trydan, mae dadansoddiad o’r galw’n awgrymu y gallai fod angen tua 2,000 o socedi gwefru cyhoeddus yng Nghaerdydd erbyn 2030″.

“Er y bydd llawer o gyfleusterau gwefru yn y ddinas yn cael eu darparu’n fasnachol neu gan gartrefi preifat gyda’u lle parcio oddi ar y stryd eu hunain, bydd angen i ni sicrhau bod cyfleusterau gwefru ar gael mewn ardaloedd heb fawr o le parcio oddi ar y stryd, gan ddechrau gyda chyflwyno 100 man gwefru arall dros y ddwy flynedd nesaf,” meddai.