Byddai’n well i gwmnïau dŵr roi arian tuag at wella’r argyfwng llygredd na’i ddychwelyd i gwsmeriaid, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae Dŵr Cymru’n gorfod dychwelyd £24.1m i gwsmeriaid drwy filiau is dros y flwyddyn nesaf, am iddyn nhw fethu targedau ar faterion fel llygredd.
Cafodd yr ad-daliad ei gyhoeddi yn dilyn adolygiad blynyddol rheoleiddiwr y diwydiant o berfformiad cwmnïau dŵr yng Nghymru a Lloegr.
Mae Dŵr Cymru wedi’u rhoi yng nghategori isaf Ofwat am y drydedd flwyddyn yn ôl, ond dywed y cwmni eu bod nhw’n “gweithio’n galed i gyflawni’r gwelliannau”.
Ledled Cymru a Lloegr, mae cwmnïau dŵr yn gorfod ad-dalu cyfanswm o £158m am fethu targedau, gyda Hafren Dyfrdwy, sydd hefyd yn gwasanaethu rhannau o Gymru, yn gorfod ad-dalu £200,000.
‘Gwell gwella seilwaith’
Ond yn ôl Janet Finch-Saunders, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, byddai’n well i’r arian fynd tuag at wella seilwaith er mwyn atal llygredd.
“Mae’n bwysig bod gwleidyddion yn siarad yn blaen â’r cyhoedd, felly fedra i ddweud wrthych rŵan nad oes yna ateb hawdd na sydyn i’r argyfwng llygredd,” meddai’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy.
“Bydd hi’n cymryd amser, cynlluniau manwl a swm sylweddol o arian i weld gwelliannau.
“Bydd yr argyfwng llygredd yn parhau, ac ond yn cael ei ddatrys pan fydd y seilwaith yn cael ei adnewyddu.
“I wneud hynny, mae angen swm enfawr o arian ar Dŵr Cymru.
“Yn sgil hynny, sut mae rhoi’r dirwyon i gwsmeriaid yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem?
“Byddai’n fwy effeithiol ei ddefnyddio ar raglenni gwella seilwaith yng Nghymru, siawns.”
Mae Prif Weithredwr y corff rheoleiddio Ofwat yn dweud na fydd arian ar ei ben ei hun yn helpu i ddatrys y mater, ond fod angen newid diwylliant mewn cwmnïau hefyd.
“Rhaid i gwmnïau roi camau gweithredu ar waith nawr i wella perfformiad, a pheidio aros nes y bydd y llywodraeth neu reoleiddwyr yn gofyn iddyn nhw weithredu,” meddai David Black.
‘Cosbau llymach’
Yn y cyfamser, dywed Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fod angen gweithredu’n bendant “dros bobol Cymru a’r amgylchedd naturiol hyfryd”, yn hytrach na dal dwylo a gwneud esgusodion.
“Am yn rhy hir o lawer, mae pobol Cymru wedi dioddef biliau dŵr cynyddol tra bod ein hafonydd a’n harfordir yn cael eu llygru gan wastraff,” meddai.
“Mae’n glir fod cwmnïau dŵr Cymreig wedi methu cyrraedd y safonau disgwyliedig yn gyson.
“Fel Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, rydyn ni wedi ymgyrchu dros lanhau ein hafonydd a’n harfordir ar frys, ac am gosbau llymach i’r rhai sy’n euog o ollwng gwastraff.”
‘Rhai arwyddion cadarnhaol’
Yn eu hymateb, dywed Dŵr Cymru eu bod nhw’n gweithio’n galed i greu’r gwelliannau maen nhw’n gwybod sydd eu hangen ac mae cwsmeriaid yn eu disgwyl ganddyn nhw, fel sydd wedi’u hamlinellu gan Ofwat.
“Mae’r fath welliannau’n cymryd amser ac yn cael eu cefnogi gan gynlluniau buddsoddi manwl er mwyn sicrhau bod gwelliannau,” meddai llefarydd.
“Fel cwmni dŵr heb gyfranddalwyr, ein ffocws yw’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu i’n cwsmeriaid a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd.
“Tra bo’r adroddiad mae Ofwat wedi’i gyhoeddi heddiw ar gyfer 2023/24, rydyn ni wedi gweld rhai arwyddion cadarnhaol ar gyfer y flwyddyn hon (2024/25) hyd yn hyn.
“Fodd bynnag, dim ond chwe mis o’r flwyddyn sydd wedi pasio ac mae angen gwelliant sylweddol, parhaus yn dal i fod.”
Ychwanega’r llefarydd y byddan nhw’n buddsoddi gwerth £4bn rhwng 2025 a 2030, gan gynnwys £2.5bn tuag at welliannau amgylcheddol.
“Bydd y buddsoddiad yn gyrru gwelliannau i gwsmeriaid ac yn sicrhau safon uchel o berfformiad ar draws y cwmni.”