Dydy hi ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i barhau i ddweud bod HS2 o fudd i Gymru, yn ôl un o aelodau seneddol Plaid Cymru.
Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan wedi awgrymu bod rheilffordd HS2 yn debygol o gael ei hymestyn i orsaf Euston yn Llundain.
Dywedodd Louise Haigh wrth BBC Radio 5Live heddiw (dydd Mawrth, Hydref 8) na fyddai’n gwneud unrhyw synnwyr i ddod â’r lein i ben yn Old Oak Common yng ngorllewin Llundain yn hytrach nag yng nghanol y ddinas.
Wrth ymateb, dywed Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, nad yw’n gwneud synnwyr “parhau â’r ffars bod y prosiect hwn rywsut o fudd i Gymru”.
‘Dim synnwyr’
Mae prosiect HS2 yn dal i gael ei ystyried yn brosiect ‘Cymru a Lloegr’, er nad oes unrhyw ran o’r rheilffordd yng Nghymru.
Pe bai’n cael ei ystyried yn brosiect ‘Lloegr yn unig’, byddai Cymru’n derbyn £4bn o gyllid canlyniadol drwy Fformiwla Barnett.
Mae disgwyl y byddai ymestyn y lein o Old Oak Common i Euston yn costio tua £6.5bn, ac o dan Fformiwla Barnett byddai Cymru’n derbyn dros £300m ychwanegol pe bai’n cael ei ystyried yn brosiect ar gyfer Lloegr yn unig, yn ôl Ann Davies.
“Os yw’r rhan hwn o’r rheilffordd yn cael ei adeiladu – seilwaith sy’n amlwg ond o fudd i’r de a Chanolbarth Lloegr – dylai Cymru gael £300 miliwn o arian ychwanegol,” meddai.
“Mae’r Gyllideb fydd yn cael ei chyhoeddi’n fuan yn gyfle i Lafur wneud iawn â’r anghyfiawnder hwn, sy’n golygu bod pwrs cyhoeddus Cymru wedi cael ei amddifadu ers llawer rhy hir.
“Rhaid i’r Trysorlys gydnabod o’r diwedd bod HS2 yn brosiect ‘Lloegr yn unig’, ac fel yn achos yr Alban a Gogledd Iwerddon, drosglwyddo’r arian sy’n ddyledus i Gymru.”
Cefndir HS2
Yn wahanaol i Gymru, mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn cyllid canlyniadol HS2.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am newid statws y prosiect ers blynyddoedd.
Fis diwethaf, fe wnaeth Trysorlys y Deyrnas Unedig ddweud eto na fyddan nhw’n ailystyried y mater ac felly na fyddan nhw’n addasu cyllid Fformiwla Barnett Cymru.
Dydy hi ddim yn glir sut mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu ariannu’r lein o Old Oak Common i Euston.
Y llynedd, dywedodd y Cyn-Brif Weinidog Rishi Sunak y byddai’n rhaid dibynnu ar fuddsoddiad preifat i’w ariannu.
Yn wreiddiol, roedd disgwyl i HS2 gysylltu Llundain gyda Birmingham, Manceinion a Leeds.
Erbyn hyn, y cynllun yw cael trenau cyflym rhwng Birmingham a Llundain, ac mae llawer o’r gwaith adeiladu hwnnw wedi’i gwblhau.