Wrth siarad â golwg360, mae Aelod Seneddol Porth Iâ (St Ives) yng Nghernyw wedi beirniadu’r ffaith nad oes unrhyw gynrychiolaeth Gernywaidd ar gyngor gwledydd a rhanbarthau newydd Syr Keir Starmer.
Bydd Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau, sydd wedi’i sefydlu gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn cyfarfod am y tro cyntaf yn yr Alban ddydd Gwener (Hydref 11).
Gan nad oes gan Gernyw lywodraeth ddatganoliedig sydd â’r un statws ag awdurdodau cyfun Lloegr, fydd y wlad Geltaidd fechan ddim yn cael ei chynnwys fel rhan o’r Cyngor.
Mae hyn er gwaethaf cydnabyddiaeth ar lefel Ewropeaidd fod Cernyw’n genedl ar wahân.
‘Methiant prif egwyddor datganoli’
Yn ôl Andrew George, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros etholaeth Porth Iâ, mae diffyg presenoldeb Cernyw ar y Cyngor yn awgrymu “methiant prif egwyddor datganoli”, sef “dathlu amrywiaeth ynysoedd Prydain”.
Dywed yr Aelod Seneddol cyntaf i dyngu’i lw seneddol yn y Gernyweg, fod Cernyw’n “hyderus” y dylai’r Llywodraeth ei chynnwys yn y Cyngor, am ei bod yn “wahanol i siroedd Lloegr am resymau hanesyddol a diwylliannol cryf”.
“Mae’r Llywodraeth yn anghywir, ac mae angen cyfle arnom ni i egluro hyn,” meddai wrth golwg360.
“Mae pob un o chwe aelod Seneddol Cernyw yn gytûn, ac mae pedwar o’r rhain yn cefnogi’r Llywodraeth.
“Yn blwmp ac yn blaen, byddai Cernyw’n lle gwell a mwy bodlon pe bai hi’n cael rheoli’i materion ei hun.”
Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau
Cafodd y Cyngor ei gyhoeddi’n wreiddiol yn dilyn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf, ac mae’n un rhan o gynllun ehangach y Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan i wella cydweithrediad rhyngddi hi a’r awdurdodau datganoliedig.
Mae disgwyl i’r Cyngor gyfarfod bob tri mis i drafod materion o bwys cenedlaethol.
Yn ogystal, bydd y Cyngor yn galluogi arweinwyr y llywodraethau datganoliedig i ddod â phynciau lleol at sylw’r Prif Weinidog.
Ymhlith aelodau’r Cyngor mae Angela Rayner, Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig; Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru; John Swinney, Prif Weinidog yr Alban, a Michelle O’Neill ac Emma Little-Pengelly, Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.
Yn ogystal ag arweinwyr y gwledydd datganoliedig, mae deuddeg maer awdurdodau cyfun Lloegr, megis Sadiq Khan, Maer Llundain, ac Andy Burnham, Maer Manceinion, hefyd yn aelodau.
Mae disgwyl hefyd y bydd Sue Gray, cyn-Bennaeth Staff Syr Keir Starmer yn Downing Street, yn bresennol.
Cafodd ei phenodi i’w swydd newydd yn gennad y gwledydd a’r rhanbarthau ganddo ddydd Sul (Hydref 6).
Dyletswydd i gydnabod Cernyw
Mae diffyg presenoldeb Cernywaidd ar y Cyngor wedi achosi rhwystredigaeth i nifer yng Nghernyw, sy’n credu bod y wlad fechan yn haeddu’i chynrychiolaeth ei hun.
Mewn llythyr ym mis Gorffennaf, soniodd Mebyon Kernow, plaid genedlaetholgar Cernyw, am eu pryderon wrth y Prif Weinidog.
Cyfeiriodd y blaid at ddau gytundeb gan Gyngor Ewrop, sef Siarter Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol 1992 a Chonfensiwn Fframwaith Amddiffyn Cenhedloedd Lleiafrifol 1998.
Mae’r rhain yn diffinio Cernyw fel gwlad ar wahân, ar seiliau iethyddol, hanesyddol a diwylliannol.
Am fod y rhain wedi’u llofnodi gan y Deyrnas Unedig, mae Mebyon Kernow yn dadlau bod dyletswydd ar Lywodraeth San Steffan i hyrwyddo ac amddiffyn Cernyw a’r Cernywiaid.
“Pan gafodd y Cernywiaid eu cydnabod fel cenedl leiafrifol, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddatgan bod ‘y penderfyniad… yn cyflwyno’r un statws i’r Cernywiaid â phobloedd Celtaidd eraill y Deyrnas Unedig: yr Albanwyr, y Cymry, a’r Gwyddelod’,” meddai llefarydd.
“Byddai gwahodd cynrychiolydd o Gernyw i Gyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau’n arwydd fod y Llywodraeth yn bwriadu gwireddu’r dyletswydd hwn.”
“Dim cynnydd” o ran datganoli i Gernyw
Dydy hi ddim yn amlwg, fodd bynnag, pa fath o gynrychiolaeth fyddai Cernyw’n medru ei hanfon i’r Cyngor.
Er bod Cyngor Cernyw wedi derbyn rhai grymoedd datganoliedig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dim ond awdurdod unol yw e.
Mae hyn yn golygu bod statws is gan y Cyngor nag awdurdodau cyfun Lloegr megis Llundain, gogledd-ddwyrain Lloegr, a gogledd Swydd Efrog.
Mae Keir Starmer wedi addo y bydd mwy o awdurdodau lleol yn cael eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf er mwyn trochi Lloegr yn llwyr, a bydd arweinwyr yr awdurdodau hyn yn cael ymuno â Chyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau.
Ond mae Ben Maguire, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cernyw, yn dadlau bod Cernyw’n haeddu statws uwch fyth.
Fis Gorffennaf eleni, awgrymodd nad maer ond senedd, ar sail debyg i Senedd Cymru, fyddai’n gweddu anghenion Cernyw.
Dydy Andrew George ddim yn teimlo bod y Llywodraeth Lafur newydd wedi gwneud unrhyw “gynnydd sylweddol” o ran datganoli i Gernyw.
“Serch hynny, mae Cyngor Cernyw a holl aelodau seneddol Cernyw’n gytûn am y tro cyntaf erioed!” meddai.
“Rydyn ni hefyd yn hynod benderfynol.
“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth roi’r gorau i’w hagwedd ‘Whitehall a ŵyr orau’ oherwydd, fel arall, fe fydd popeth yn datod.”