Mae Liz Saville Roberts yn galw am ddiweddariad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am waith i wella cysylltedd yn ei hetholaeth yn Nwyfor Meirionnydd.
Daeth gwelliannau i signal ffôn i etholaeth Aelod Seneddol Plaid Cymru yn sgil lobïo blaenorol ganddi.
Bellach, mae’r Aelod Seneddol wedi cyfarfod â Chris Bryant, Gweinidog yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, gan alw am eglurder ar gynlluniau pellach i wella cysylltedd yn yr etholaeth.
Dywed ei bod hi’n “falch o’r cyfle i drafod cynnydd ar nifer o brosiectau cysylltedd pwysig yn Nwyfor Meirionnydd, a’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig â chyflawni’r gwaith hanfodol hwn”.
Mastiau Gwasanaeth Ardal Estynedig
Yn San Steffan, fe wnaeth Liz Saville Roberts ofyn i Chris Bryant bwyso ar y Swyddfa Gartref i droi cyfres o fastiau Gwasanaeth Ardal Estynedig (EAS), sydd wedi’u codi ers sbel, ymlaen o’r diwedd.
Nod y rhain ydy gwella signal mewn ardaloedd anghysbell a ffyrdd sydd heb signal o gwbl, fel yr A470, A487, A497 a’r A4212.
“Ceisiais y wybodaeth ddiweddaraf am droi ymlaen nifer o fastiau EAS, sydd eisoes wedi’u hadeiladu a’u cynllunio i ddarparu signal gwasanaethau brys hanfodol, gan wella signal symudol yn sylweddol mewn ardaloedd heb unrhyw ddarpariaeth, neu ddarpariaeth gyfyngedig iawn,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae’r oedi parhaus cyn troi y mastiau hyn ymlaen yn amddifadu rhai o’n cymunedau mwyaf ynysig o fynediad at wasanaeth ffôn dibynadwy, ac yn atal y gwasanaeth brys rhag cael ei gyflwyno yn rhannau mwyaf gwasgaredig fy etholaeth.”
Newid y rhwydwaith ffôn
Mae Liz Saville Roberts hefyd wedi mynegi pryderon am newidiadau arfaethedig i’r rhwydwaith ffôn yn yr etholaeth.
Mae’r llywodraeth wedi bod yn gweithio ers sbel hir ar ddisodli’r Rhwydwaith Ffôn Newid Cyhoeddus (PSTN) presennol gyda rhwydwaith cwbwl ddigidol sy’n defnyddio technoleg ffeibr.
Ond mae’r dechnoleg newydd yn golygu y gallai problemau gyda signal rhwydwaith adael cymunedau heb gysylltedd ffôn digonol.
Mae nifer o drigolion yr etholaeth yn bryderus y bydd y newid yn cael effaith niweidiol ar yr henoed a’r rheiny sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell.
Fe wnaeth Liz Saville-Roberts ofyn “pa fesurau sy’n cael eu rhoi ar waith i amddiffyn yr henoed a phobol fregus, a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd heb signal ffôn symudol, rhag yr heriau penodol sy’n gysylltiedig â rhwydweithiau ffôn ffeibr”.
“Fy nealltwriaeth i oedd y byddai cwsmeriaid y nodwyd eu bod yn fregus – boed hynny oherwydd iechyd, oedran, neu oherwydd eu hardal leol – yn cael eu hepgor o’r newid nes bod mesurau lliniaru digonol ar waith,” meddai.
“Dw i eisiau sicrwydd cadarn mai felly y mae.
“Dylid darparu’r offer lliniaru angenrheidiol fel batris i bobol fregus er mwyn cynnal cysylltedd os bydd llifogydd neu doriadau trydan am gyfnod hir, er enghraifft.”
Soniodd hefyd am bwysigrwydd technoleg grwydrol (‘roaming’) mewn ardaloedd gwledig fel Dwyfor Meirionnydd, yn enwedig ardaloedd sydd mor ddibynnol ar dwristiaid.
“Nid yw caniatáu i ddarparwyr eraill osod offer ar fastiau yn ddigon mewn parc cenedlaethol, yn enwedig lle mae caniatâd cynllunio’n cyfyngu ar uchder a chadernid mastiau ar gyfer offer lluosog,” meddai.
“Mae ein heconomi yn dibynnu ar dwristiaeth, a dydy pobol ddim yn dewis eu darparwr ffôn symudol ar sail ble fyddan nhw’n mynd ar wyliau, ond bydd angen iddyn nhw ddefnyddio eu ffonau o hyd.”
Mesuryddion Clyfar
Holodd Liz Saville Roberts am yr “anfantais anghymesur” y gallai ardaloedd gwledig ei wynebu yn ystod ymdrechion y Llywodraeth i gyflwyno mesuryddion clyfar.
“Rwy’n ymwybodol o achosion lle mae mesuryddion clyfar wedi’u gosod mewn ardaloedd heb signal 2G, sy’n amlwg o ddim budd i’r cwsmer,” meddai.
“Dylid annog unrhyw fenter i ehangu’r cyfrwng technolegol mae mesuryddion clyfar yn gweithredu ynddo, a galluogi pobol mewn ardaloedd mwy anghysbell i fanteisio ar gytundebau ynni gwell.”
Dywed y bydd yn “parhau i lobïo’r Llywodraeth ar y materion penodol hyn, fel nad yw trigolion, busnesau nac ymwelwyr yn Nwyfor Meirionnydd bellach yn dioddef yn anghymesur o ran cael mynediad i gysylltedd digidol”.