Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd adolygiad barnwrol yn cael ei gynnal yn dilyn y penderfyniad i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarfon a’r Trallwng.

Mae’r Uchel Lys wedi rhoi caniatâd i’r achos fynd ymlaen i wrandawiad llawn gerbron Barnwr. Fe fyddan nhw yn ystyried y broses a arweiniodd at gydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn rhoi sêl bendith i gau’r canolfannau o blaid symud y gwasanaeth i safle yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Mae’r Uchel Lys wedi rhoi caniatâd i’r achos fynd ymlaen i wrandawiad llawn gerbron Barnwr a fydd yn archwilio’r broses a arweiniodd at Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn rhoi sêl bendith i gau’r canolfannau a symud y gwasanaeth i safle yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts a’r Aelod o’r Senedd Mabon ap Gwynfor wedi croesawu’r newyddion.

“Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen yn y frwydr i gadw’r Ambiwlans Awyr i hedfan o Gaernarfon a’r Trallwng ac yn dyst i benderfyniad pawb fu’n rhan o’r ymgyrch i ddiogelu gwasanaeth sy’n agos at ein calonnau ni i gyd. Nid yw sicrhau Adolygiad Barnwrol yn dasg hawdd o bell ffordd.”

‘Pryderon difrifol’

Serch hynny maen nhw’n dweud nad ydyn nhw wedi cael sicrwydd na fydd yr ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl o gael eu cau, fel Pen Llŷn, de Meirionnydd, Ynys Môn a chanolbarth Cymru, yn cael gwasanaeth arafach a llai safonol.

“Nid yw’n afresymol felly i bobl fod â phryderon difrifol y bydd gennym wasanaeth sylweddol is yn sgil cau safleoedd Caernarfon a’r Trallwng.

“Rydym yn parhau’n gadarn yn ein barn fod yn rhaid cadw canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a’r Trallwng fel canolfannau gweithredu ar gyfer yr hofrenyddion,” meddai Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi croesawu’r newyddion am gynnal Adolygiad Barnwrol.

“Mae’r newyddion yma’n llygedyn o oleuni mewn cyfnod sydd wedi bod yn bryderus iawn,” meddai Russell George AS a llefarydd y blaid dros ganolbarth Cymru.

Dywedodd y gallai ad-drefnu’r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr adael pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig fethu a chael gofal brys mewn tywydd gwael. Mae Russell George hefyd wedi beirniadu’r broses o ad-drefnu gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru.