Mae hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Iechyd Meddwl heddiw (dydd Iau, 10 Hydref) ac mae golwg360 wedi bod yn trafod efo ambell unigolyn sy’n gysylltiedig â’r fenter wirfoddol, Ffrindiau Gigiau Cymru.

Mae Ffrindiau Gigiau Cymru (Gig Buddies Cymru) yn paru gwirfoddolwyr efo rhywun sydd efo anabledd dysgu a/neu awtistiaeth sydd yn wynebu heriau oherwydd eu hanabledd.

Fel “Ffrind Gig” mae gwirfoddolwyr yn gallu defnyddio eu hangerdd tuag at amryw o weithgareddau – megis mynd i weld cerddoriaeth neu chwaraeon – i helpu rhywun arall “fwynhau profiadau newydd”.

Prif bwrpas y fenter yw helpu pobl sydd efo anabledd dysgu i gael bywyd cymdeithasol ac “aros allan tu hwnt i naw o’r gloch y nos” lle, yn aml, heb gefnogaeth, nid yw hyn yn bosib.

Felly ar Ddiwrnod Rhyngwladol Iechyd Meddwl, mae golwg360 wedi bod yn siarad â Paul a Hedydd o Fangor, a Gail a Mel o Faesteg i ddeall pwysigrwydd adloniant er lles iechyd meddwl.

Hedydd a Paul yn Clio Lounge, Bangor

“Cyfle i wirfoddoli yn un gwych”

Ym Mangor mae Paul a Hedydd wedi bod yn mynd allan am brydau bwyd – enghraifft o’r amryw o weithgareddau sydd ar gael.

Dywed Hedydd ei fod wedi bwriadu cydweithio efo Ffrindiau Gigiau Cymru o safbwynt mynediad i gigiau ym Mangor, ond wedi sylweddoli bysa’n mwynhau gwirfoddoli yn uniongyrchol.

“Mae’r cyfle i wirfoddoli yn un gwych,” meddai Hedydd wrth golwg360.

“Mae’r gwasanaeth, a’r gefnogaeth, yn anhygoel o bwysig.”

Dywed fod Ffrindiau Gigiau yn gwneud gwaith “gwerthfawr” o safbwynt y pwyslais maen nhw’n rhoi ar baru ffrindiau efo’i gilydd yn seiliedig ar faint o ddiddordebau sydd ganddyn nhw’n gyffredin.

“Mae pawb yn Ffrindiau Gigiau yn ffocysu ar yr unigolion, sydd yn bwysig dwi’n meddwl,” meddai Hedydd.

“A sicrhau bod unigolion yn gallu gweithio ar eu gorau a chefnogi ei gilydd – sydd yn dda, oherwydd ma’ pawb efo anghenion gwahanol a diddordebau gwahanol.”

 “Ffrindiau Gigiau wedi helpu fi deimlo’n gyfforddus” bod efo pobl ar ôl Cofid

Dywedodd ei fod yn “rili nerfus” cyn mynd i weld Paul am y tro cyntaf, “yn yr un modd a mynd i weld ffrind newydd am y tro cyntaf”.

Aeth Hedydd a Paul i fwyty Clio Lounge ym Mangor am y tro cyntaf wythnos diwethaf.

“Mwynhau pryd o fwyd, a chael sgwrs am bob dim dan haul rili,” meddai Hedydd efo gwên hwyliog ar ei wyneb.

O safbwynt Paul, mae’r cyfle yn un gwerthfawr gan ei fod “yn mwynhau mynd allan i fwyta a mynd i gigiau.”

Dywed ei fod “yn teimlo’n dda” yn mynd i weld gigiau, fel band teyrnged i Jimi Hendrix.

Hefyd dywed ei fod wedi mwynhau mynd i “fwyty gorau Bangor” efo Hedydd, ei “ffrind gorau” wythnos diwethaf.

“Mae Ffrindiau Gigiau yn cefnogi fi i fynd i lefydd,” meddai Paul.

Dywed fod yn well ganddo “fynd efo rhywun arall” gan na fyddai’n bosib mynd heb gymorth.

Mae Paul hefyd yn darlithio ym Mhrifysgol Bangor yn trafod ei brofiad o weithio mewn chwaraeon, ysbytai, a gwasanaethau iechyd meddwl fel rhywun sydd efo awtistiaeth.

“Mae Ffrindiau Gigiau wedi helpu fi i deimlo’n gyfforddus bod efo pobl ar ôl cael fy nghloi i mewn am flynyddoedd yn cysgodi yn ystod Cofid,” meddai Paul.

“Lle cynt, roeddwn i yn sownd tu fewn trwy’r amser.”

Mae Paul a Hedydd rŵan yn edrych ymlaen at fynd i wylio’r ffilm Joker newydd gyda’i gilydd.

Mae Hedydd hefyd yn dweud “ei fod am gymryd y cam” i fynd i wylio band teyrnged am y tro cyntaf efo Paul yn y dyfodol agos.

“Cyfle i gael bywyd cymdeithasol arferol”

Un sydd wedi bod yn gwirfoddoli efo Ffrindiau Gigiau am dair blynedd yw Gail o Faesteg.

Mae Gail yn gweithio fel Swyddog Cyfeirio Cymunedol ac wedi helpu i gyfeirio pobl sydd ag anhawster dysgu i Ffrindiau Gigiau fel rhan o’i swydd.

“Ddaru fi weld Ffrindiau Gigiau a meddwl bod o’n ffordd dda o wneud rhywbeth gwahanol i be dwi’n wneud o hyd.”

Mae Gail wedi bod yn mynd efo Mel i wahanol ddigwyddiadau, a hefyd i chwarae bingo.

“Ry’n ni’n mynd i wrando ar gerddoriaeth yr 80au yn bennaf.”

Dywed eu bod nhw wedi bod i wylio band Radio Gaga ac i wylio Diana Ross yn ddiweddar.

“Weithiau mae Mel yn stryglan i gerdded yn iawn,” meddai Gail, “ond pan mae hi yn y gigiau, dydi hi ddim yn ffeindio fo mor anodd.”

Dywed Gail bod y gerddoriaeth a’r awyrgylch yn helpu Mel i “ymlacio” ac i beidio “poeni am sut mae hi’n cerdded”.

“Mae Mel yn byw ar ei phen ei hun yn agos i dŷ’r teulu,” meddai.

“Ond does yna ddim llawer o drafnidiaeth lle mae hi’n byw, felly mae hi’n ei chael hi’n eithaf anodd mynd i weld pethau.”

Dywed bod pobl fel Mel, sydd yn byw mewn llety cymorth, yn gorfod mynd adref erbyn 9 o’r gloch y nos.

“Felly mae rhywbeth fel hyn yn gyfle i gael bywyd cymdeithasol arferol.”

Dywedodd Gail ei fod o fudd i’w hiechyd meddwl hi “bod Mel wedi gallu mynd allan a chael hwyl”.

I unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli efo Ffrindiau Gigiau Cymru gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ar sut i wneud cais yma.