Mae Rhun ap Iorwerth wedi defnyddio ei araith heddiw (dydd Gwener, Hydref 11) i amlinellu ei flaenoriaethau i Gymru, i Lywodraeth Plaid Cymru ac i’w arweinyddiaeth ei hun pe baen nhw’n fuddugol yn etholiadau’r Senedd yn 2026.
Dywedodd yn ei araith fod llwyddiant y Blaid yn etholiad cyffredinol 2026 wedi codi “enfys etholiadol dros Gymru”.
Cymeradwyodd ddau Aelod Seneddol y Blaid, Ann Davies yng Nghaerfyrddin a Llinos Medi ar Ynys Môn, fel “menywod aruthrol ac eithriadol”.
Wrth drafod y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr, dywedodd yn ei araith fod yna “dlodi o ymgais” a “syniadau” sydd “yn cadw Cymru’n ôl”.
Ar fater datganoli Ystâd y Goron, dywedodd ei bod “yn wych” cael cefnogaeth “rhai” o aelodau’r Blaid Lafur, ond fod “echelin Starmer a Stevens ddim am alluogi iddo ddigwydd”.
Ychwanegodd fod yr un yn wir o ran system ariannu Barnett, gan ddyfynnu llythyr gan y Prif Weinidog Eluned Morgan, sydd wedi dweud ei bod hi’n “hapus fel y mae hi”.
“Newid ddywedodd Llafur – yn uwch ac yn falch – ar lythyrau a ffurflenni, yn canfasio ac mewn dadl.
“Ond mae o wedi bod llai am newid y dudalen a mwy am droi’r sgriw.”
“Angen i galonnau guro” ar gyfer datganoli
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod cychwyn datganoli yn 1999 wedi bod yn gyfnod o “optimistiaeth”.
Ond er bod penderfyniadau wedi gwella bywydau pobl, nad yw hyn yn ddigon rhagor.
“Yn 2026, mae gennym gyfle i gael mwy o galonnau yn curo,” meddai.
Yn dilyn ei araith, dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth golwg360 ei fod “yn cydnabod” fod diwygio’r Senedd yn gallu bod yn ddryslyd, ond ei fod o “y peth iawn i’w wneud”.
“Mae o’n golygu ryw gychwyn ffres, a rhyw wawr newydd eto.
“Dw i’n gwybod o siarad efo pobol fod yna deimlad bod llywodraeth wedi’i harwain gan Lafur yn anochel.
“Ond go iawn fan hyn, mae yna gyfle ffres.
“Ac mae cael y calonnau yna i guro unwaith eto am be’ ydan ni’n gallu gwneud efo’n democratiaeth ni yma yng Nghymru dan arweinyddiaeth newydd yn rhywbeth dw i’n gyffrous amdano fo.”
Plaid Cymru ddim am gael ei “sugno” i mewn i “wleidyddiaeth negyddol”
Ar addewidion, dywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei araith fod ganddo’r “angerdd” i “sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn iach” i ddathlu ei ganmlwyddiant yn 2048 a thu hwnt.
Y tu ôl i hyn mae meddylfryd hirdymor, yn hytrach na thynnu arian yn ôl o fesurau iechyd ataliol fel mae’r Llywodraeth yn ei wneud ar hyn o bryd, meddai.
Roedd gweithredu tymor hir yn rhan allweddol o neges Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur, yn yr etholiad cyffredinol.
Dywed Rhun ap Iorwerth wth golwg360 ei fod “yn deall” y gymhariaeth, ond fod gwahaniaeth o ran y ffordd mae Syr Keir Starmer a’i Lywodraeth wedi mynd i’r un cyfeiriad â’r Torïaid a pholisi “llymder fel modd o wneud y penderfyniadau anodd”.
“Dyna ydi’r rheswm pam mae [Keir Starmer] yn dweud na all o wneud ambell i beth; na allan nhw barhau i gefnogi rhai o’n pobol fwyaf bregus ni.
“Dewisiadau gwleidyddol ydi’r rhain, a fyddai Plaid Cymru ddim, dw i’n hyderus, yn cael ein sugno i mewn i’r math yna o wleidyddiaeth negyddol.”
Rhestrau aros
Dywed Rhun ap Iorwerth y bydd yn rhaid i Blaid Cymru weithredu yn y tymor byr hefyd, wrth iddo gyfeirio at restrau aros.
Yn ei araith, cyfeiriodd at y ffaith fod y Blaid Lafur yn gweld targedau fel rhyw fath o “gysyniad estron”.
Felly, wrth ymateb i gwestiwn ynghylch pryd allai pobol Cymru weld rhestrau aros yn gostwng o dan ei arweinyddiaeth, dywedodd wrth golwg360 nad yw’n “gallu eistedd yma a rhoi dyddiad i chi”.
“Ond be’ dw i yn benderfynol y bydden ni’n gallu gwneud yn fuan iawn, o fewn blwyddyn i ddechrau Llywodraeth Plaid Cymru, ydi gweld yr arwyddion o newid cyfeiriad.
“Achos dyna yw’r peth sydd yn rhwystredig i bobol ar hyn o bryd; does yna ddim arwydd o unrhyw beth ond o sefyllfa, mewn difri, yn mynd yn waeth.”
Fel rhan o bolisi atal afiechyd hirdymor, mae’r Blaid wedi ymrwymo i “raglen retrofit uchelgeisiol” sydd yn sicrhau bod “effeithlonrwydd ynni” wrth wraidd eu polisïau tai.
Wrth drafod addysg, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y Llywodraeth “wedi bodloni ar berfformiadau addysg di-fflach”.
Ac wrth gyfeirio at bolisi gan Lywodraeth Gogledd Iwerddon, dywedodd fod strategaeth ‘Cyfri:Darllen:Llwyddo’ “wedi codi safonau i bawb”.
I orffen, daeth galwad ganddo ar i’r aelodaeth fynd allan i “ennill efo’n gilydd”.
Does dim amheuaeth bellach; mae ymgyrch etholiadol Senedd 2026 wedi cychwyn.