Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr awdur Alun Davies sydd wedi bod yn rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Mae Alun yn dod o Aberystwyth yn wreiddiol a bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i deulu. Mae’n awdur cyfres dditectif Taliesin MacLeavy, a Pwy yw Moses John? ac yn enillydd gwobr Tir na-Nog gyda’r gyfres Manawydan Jones. Mae Alun hefyd yn awdur Tywyllwch y Fflamau, sy’n un o gyfres o straeon byrion y gyfres Stori Sydyn. Mae’r llyfr yn rhan o Her yr Hydref sy’n ceisio annog pobl i ddarllen un llyfr yng nghyfres Stori Sydyn yr wythnos drwy gydol fis Hydref. Prif gymeriad Tywyllwch y Fflamau yw’r Ditectif Bedwyr Campbell, sy’n hoff iawn o’i fwyd…
Fy atgof cyntaf ydy bwyta Snickers ar drip ysgol i’r Bala a mynd yn sâl ar y bws. Dw i erioed wedi cynhesu at gnau ers hynny.
Mi fyddai Mam yn paratoi pryd cartref pob nos, ond wnes i ddim coginio rhyw lawer cyn gadael i fynd i’r brifysgol. Yn y neuadd breswyl byddai pawb yn cymryd tro i wneud swper i’r grŵp, felly wnes i ddysgu’n gyflym sut i wneud prydau mawr, rhad, fel spag bol, cyri neu chilli. Mi wna’i drio bron unrhyw beth (gan gynnwys mochyn cwta tra’n teithio trwy Beriw) ond mi fydda’i yn tueddu i ddychwelyd i’r prydau mwy syml yma dro ar ôl tro.
Dwi wedi bod yn ffan fawr o frechdanau erioed – maen nhw mor hawdd i’w gwneud, ac mi allwch chi greu rhai mor gymhleth neu syml a liciwch chi. Mae’r Ditectif Bedwyr Campbell, y prif gymeriad yn Tywyllwch y Fflamau, yn gwledda ar frechdanau wy a selsig seimllyd, ac roedd ysgrifennu’r olygfa yna yn tynnu dŵr o’m dannedd! Ond, petawn i’n gorfod dewis bwyd cysur, does dim yn well na brechdan Cheddar cryf a phicl ar fara gwyn trwchus.
Mae’r cwmni’r un mor bwysig â’r bwyd i greu pryd da, ac felly byddai fy mhryd delfrydol i gyda fy nheulu. Ar wyliau yn Sbaen dros yr haf, wnaethon ni fwyta mewn sawl bwyty yn edrych allan dros y traeth, yn gwylio’r haul yn machlud. Rhwng un peth a’r llall mae bywyd yn gallu mynd yn brysur iawn, ac mae’n braf cael y cyfle i dreulio’r diwrnod cyfan gyda’n gilydd ac wedyn gadael i rywun arall wneud y gwaith wrth ymlacio gyda pheint o gwrw oer yn yr haul, yn edrych mlaen at fyrgyr mawr gyda digon o sglodion. Dw i wedi cael y cyfle i drio lot o fwydydd gwahanol dros y byd, ond dw i’n credu ei fod yn anodd, os nad yn amhosib, i guro byrgyr da.
Dw i ddim y ffan fwyaf o ginio Nadolig, ond dw i wrth fy modd yn gweithio drwy’r left-overs o Ddydd San Steffan ymlaen. Dw i’n cofio archebu twrci llawer rhy fawr rhai blynyddoedd yn ol, a threulio’r diwrnodau wedyn yn byw ar datws rhost, caws a baguettes gyda thwrci, stwffin, a saws cranberry. Roedd fy mab ifanca’ yn dair oed ar y pryd, a wnaethon ni dreulio’r diwrnodau yn chwarae gyda’i anrhegion a’n gwylio ffilmiau ar y teledu – hyfryd.
Lasagne, gyda chorizo a thri math gwahanol o gaws fydda’i fel arfer yn gwneud os dw i’n coginio i griw o bobl. Dros y flwyddyn ddiwethaf dw i wedi dechrau gwneud saws gwyn fy hun, sy’n gwneud CYMAINT o wahaniaeth. Yn Tywyllwch y Fflamau mae Bedwyr Campbell yn mynnu sglodion a bara garlleg gyda’i lasagne, ond mae un neu’r llall yn ddigon i fi.
Ffefryn y plant yw fy enchiladas cyw iâr a chorizo (y tip yw rhoi courgette wedi gratio mewn yn y gymysgedd, a chymaint o gaws a phosib). Ond mae gen i un rysáit dw i wedi creu fy hun, sef pasta, tiwna, caws, a llwy neu ddau o Branston Pickle – dyw e ddim at ddant pawb, ond dw i’n meddwl ei fod e’n flasus iawn!
Stori Sydyn: Tywyllwch y Fflamau, gan Alun Davies, Y Lolfa, £1