Bydd arni angen gweledigaeth glir er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwn yn etholiad nesaf Senedd Cymru, yn ôl colofnydd gwleidyddol golwg360…


Gallwn fod yn sicr y bydd Plaid Cymru’n rhan o lywodraeth nesaf Cymru. Mae hyn yn un peth y bydd gan ei haelodau yn ei chynhadledd yng Nghaerdydd sail gadarn dros fod yn hyderus yn ei gylch.

Mae’n amhosibl rhagweld sefyllfa lle byddai Llafur yn gallu llywodraethu ar ei phen ei hun. Mae gormod o anawsterau yn ei hwynebu, ac mae’r rheini’n debygol iawn o ddwysáu dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Ar ben hynny, bydd y drefn bleidleisio newydd yn sicr o rwystro unrhyw blaid rhag cael mwyafrif dros bawb (mae hyn yn un o’r ychydig bethau y gellir ei ddweud o blaid y drefn honno).

Mewn sefyllfa o’r fath, bydd Llafur fwy neu lai yn gwbl ddibynnol ar Blaid Cymru am gefnogaeth i ffurfio llywodraeth, gan na fydd ganddi unrhyw blaid arall i droi ati. Mae’r sicrwydd cymharol hwn o fod yn rhan o lywodraeth yn rhoi cyfle i Blaid Cymru mewn sefyllfa gref wrth baratoi ar gyfer yr etholiad. Mae’n rhoi cyfle hefyd i’w gwleidyddion a’i haelodau feddwl a phenderfynu beth hoffen nhw ei gyflawni mewn llywodraeth.

Mae trafferthion presennol Llafur yn golygu bod Plaid Cymru’n codi ei golygon yn uwch na chwarae rhan mewn Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Gorchfygu Llafur ydi’r nod ganddi bellach.

Mae arolwg barn diweddar yn awgrymu na fyddai hyn yn gwbl amhosib, wrth ddangos Plaid Cymru o fewn un pwynt canran i Lafur. Eto i gyd, dangos cwymp ddramatig yn y gefnogaeth i Lafur roedd yr arolwg hwnnw yn hytrach na chynnydd sylweddol yng nghefnogaeth Plaid Cymru. Byddai arni angen cefnogaeth lawer cryfach er mwyn bod mewn sefyllfa gredadwy i arwain llywodraeth heb fod yn gyfan gwbl ddibynnol ar gydweithrediad Llafur.

Cymharu ag 1999

Gobaith Plaid Cymru yw gallu efelychu ei llwyddiant yn etholiad cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Dyma pryd y cafodd y blaid ei chyfanswm a’i chyfran uchaf erioed o’r bleidlais. Er bod Llafur yn weddol gysurus ar y blaen iddi yn yr etholiad hwnnw, gallai ennill cyfran gyfuwch o’r bleidlais a gafodd bryd hynny fod yn ddigon i roi Plaid Cymru ar y blaen y flwyddyn nesaf.

Fel sail i’w gobaith dros efelychu llwyddiant 1999, mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi bod yn tynnu sylw at y tebygrwydd rhwng yr amgylchiadau presennol ac fel yr oedd bryd hynny.

Yn sicr, mae rhai amgylchiadau sy’n gyffredin. Llywodraeth Lafur yn Llundain gyda mwyafrif mawr yn colli ei phoblogrwydd (ac mae hynny wedi digwydd yn llawer cyflymach yn achos Keir Starmer na Tony Blair). Mae brwydro mewnol o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru hefyd yn ffactor cyffredin, er ei bod yn rhy gynnar ar hyn o bryd i ragweld sut fydd pethau erbyn yr etholiad yn 2026.

Mae gwahaniaethau pwysig hefyd. Un o’r prif wahaniaethau oedd y brwdfrydedd a’r cyffro amlwg oedd i’w deimlo ynghylch sefydlu senedd gyntaf Cymru. Yn ogystal ag ysbrydoli cefnogwyr Plaid Cymru, roedd hefyd deimlad ymysg y cyhoedd ehangach fod gobaith am ddechrau newydd i Gymru.

Y digwyddiad mawr a weddnewidiodd ragolygon Plaid Cymru yn yr etholiad hwnnw oedd i Ysgrifennydd Cymru a’r darpar Brif Weinidog Ron Davies orfod ymddiswyddo o dan gwmwl fisoedd ynghynt. O ganlyniad i hynny, llwyddodd peiriant y blaid Lafur yn Llundain i chwalu ei holl hygrededd yng Nghymru wrth orfodi Alun Michael fel arweinydd pan oedd Rhodri Morgan yn llawer mwy poblogaidd.

Roedd y cyferbyniad rhwng Dafydd Wigley, un o’r gwleidyddion uchaf ei barch yng Nghymru, ac Alun Michael, gafodd ei bortreadu fel pwdl i Tony Blair, yn neges etholiadol bwerus. Roedd y syniad o ethol prif weinidog cyntaf Cymru hefyd yn golygu bod pwyslais anghyffredin o gryf wedi cael ei roi ar bersonoliaethau yn yr etholiad hwnnw.

Go brin y byddai cymharu personoliaethau Rhun ap Iorwerth ac Eluned Morgan yn ennyn teimladau agos mor gryf y tro hwn. Mae’n fendith ddiamheuol i Lafur fod Vaughan Gething wedi gwneud digon o lanast yn ddigon cyflym iddyn nhw allu cael gwared ag ef mewn pryd. Gwahaniaeth mawr arall rhwng 1999 a 2026 fydd diffyg unrhyw deimlad o frwdfrydedd tuag at y drefn newydd ddiffygiol o ethol aelodau i’r Senedd, fydd yn sicr o ddyfnhau amheuon pobol am werth ‘cael mwy o wleidyddion’.

Mae’n debygol iawn hefyd, ar hyn o bryd o leiaf, y bydd mwy o gystadleuaeth am bleidleisiau pobol sydd wedi dadrithio â Llafur nag oedd yn 1999.

Ennyn brwdfrydedd cefnogwyr

Bydd ar Blaid Cymru fwy o angen nag erioed am weledigaeth glir y tro hwn o’r hyn mae hi’n bwriadu ei gyflawni mewn llywodraeth. Ni fydd gweld ei gwleidyddion mewn llywodraeth, na hyd yn oed ei harweinydd yn Brif Weinidog, yn ddigon ynddo’i hun i ennyn brwdfrydedd ei chefnogwyr i ymgyrchu drosti.

Os mai annibyniaeth i Gymru ydi prif amcan gwleidyddol rhai o aelodau Plaid Cymru, go brin fod ennill grym yn Senedd Cymru yn mynd i wneud llawer o wahaniaeth yn hynny o beth. Mae’r SNP wedi llywodraethu’r Alban ers blynyddoedd ond heb ennill dim mwy o bwerau i’w gwlad.

Ar y llaw arall, mi wnaeth dylanwad Plaid Cymru yn llywodraeth olaf Rhodri Morgan sicrhau’r refferendwm yn 2011 i ennill rhagor o bwerau i Gymru a throi’r Cynulliad yn Senedd. Fyddai neb call eisiau refferendwm arall ar unrhyw fater yng Nghymru, ond bydd angen i Blaid Cymru argyhoeddi ei chefnogwyr y bydd yn gallu gwasgu rhywfaint yn rhagor o bwerau o Lundain.

Er mwyn ysbrydoli ei chefnogwyr a’i phleidleiswyr craidd, bydd angen i Blaid Cymru ymrwymo hefyd i weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gyfer mesurau pendant ac effeithiol i gryfhau’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd. Ni fydd lle i unrhyw amwysedd ynghylch hyn. Y gwir amdani ydi bod trwch aelodaeth Plaid Cymru yn poeni llawer mwy am y ffordd mae eu cymunedau’n cael eu goresgyn gan Saeson nag y maen nhw am faterion fel cael HS2 Barnett consequentials i Gymru.

Yn yr un modd, mi fydd hefyd angen iddyn nhw wrthwynebu cynlluniau Llafur Llundain i osod targedau anferthol ac afrealistig ar gyfer codi tai newydd. Bydd yn rhaid i hyn hefyd fod yn llinell goch yn y tywod.

Datrys argyfwng iechyd

Mi fydd dwy flaenoriaeth fawr arall ei haelodau a’i chefnogwyr yn unol â’r hyn yw i’r cyhoedd yn gyffredinol – sef gwella’r economi a datrys argyfwng y Gwasanaeth Iechyd.

Mi fydd angen i Blaid Cymru gynnig gweledigaeth gredadwy ac ymarferol ar sut y gallai gyflawni hyn.

Un o brif negeseuon Rhun ap Iorwerth yn ei araith oedd yr angen i roi pwyslais o’r newydd ar wella iechyd cyhoeddus ac ar iechyd ataliol, a phenodi gweinidog i fod â chyfrifoldeb penodol dros hyn.

Gall pawb gytuno bod hyn yn syniad rhagorol ddylai ddenu cefnogaeth pawb rhesymol.

Ar y llaw arall, dydi mesurau hirdymor i wella iechyd y boblogaeth, er mor gymeradwy, yn gwneud dim i ddatrys yr argyfwng presennol. Gallai cynyddu a gwella canolfannau hamdden, llwybrau a lonydd beicio, cyfleoedd am fwydydd iach a rhagor o wiriadau meddygol rheolaidd dalu ar ei ganfed yn y dyfodol. Ond dydyn nhw’n dda i ddim i’r cleifion sy’n dioddef mewn poen ar hyn o bryd, neu sydd â’u hiechyd yn dirywio, wrth orfod aros am driniaeth.

Law yn llaw â’r cynllunio hir mae angen mesurau brys yn ddi-oed i sicrhau bod y cleifion hyn yn cael y driniaeth maen nhw’n ei haeddu. Mae’n ymddangos y bydd y Gweinidog Iechyd yn Llundain, Wes Streeting, yn cymryd camau buan i ddefnyddio’r sector preifat i helpu i ddatrys y broblem. Mae’n annhebygol fod arnyn nhw eisiau mynd i lawr y llwybr hwn, ond mae’n bur amlwg nad oes dewis arall ymarferol.

Gallai hyn roi dewis anodd i Lywodraeth Cymru. Os byddan nhw’n gwrthod gwneud yr un fath, mi fydd y bwlch rhwng rhestrau aros Cymru a Lloegr yn lledu ymhellach.

Byddai union yr un her yn wynebu Plaid Cymru pe byddai mewn grym. Byddai ei chnewyllyn o sosialwyr uniongred yn gwneud popeth yn ei gallu i’w rhwystro i ddefnyddio’r sector preifat dan unrhyw amgylchiadau. Iddyn nhw mae’r Gwasanaeth Iechyd gafodd ei sefydlu gan Aneurin Bevan yn ymylu ar fod yn sanctaidd ac uwchlaw unrhyw feirniadaeth. Yn wir, hawdd amau y byddai diogelu’r egwyddorion sosialaidd sy’n sail iddo yn fwy o flaenoriaeth i rai ohonyn nhw nag y byddai lleddfu dioddefaint cleifion.

Does dim amheuaeth, fodd bynnag, y byddai unrhyw fesurau pragmataidd i wella lles cleifion yn cael eu croesawu gan y cyhoedd yn gyffredinol.

Y realiti ydi nad oes gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol – yng Nghymru nac ym Mhrydain – yr adnoddau na’r capasiti angenrheidiol ar hyn o bryd. Gan nad oes gan Lywodraeth Cymru y pwerau i godi’r trethi angenrheidiol, yr unig ddewis arall fydd hyrwyddo sector annibynnol i weithio law yn llaw â’r gwasanaeth gwladol a cheisio unrhyw gyfleoedd i gydweithio.

Un o’r prif heriau i Blaid Cymru dros y flwyddyn nesaf fydd datblygu ffyrdd credadwy ac effeithiol o wneud hyn. Bydd yn rhaid iddi ddangos bod ganddi gynllun ar gyfer datrys yr argyfwng presennol yn ogystal â’r weledigaeth i greu Cymru iachach yn y dyfodol.