Mae Tu Hwnt i’r Bont yn Llanrwst yn un o adeiladau eiconig Cymru ac yn ffefryn gyda ffotograffwyr.

Mae’r adeilad rhestredig Gradd II wedi ymddangos ar glawr The Lonely Planet Wales Travel Guide a chomic Beano.

Rŵan, mae’r caffi yn yr adeilad, sy’n dyddio nôl i’r bymthegfed ganrif, ar werth.

Mae’n debyg ei fod wedi’i adeiladu’n wreiddiol yn 1480 fel ffermdy. Yn ddiweddarach, cafodd ei ddefnyddio fel llys cyn i’r adeilad fynd yn adfail. Roedd pobl y dref wedi talu i adnewyddu’r adeilad a chafodd ei brynu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y 1950au er mwyn ei ddiogelu.

Roedd perchnogion y les wedi penderfynu troi’r adeilad yn gaffi ac mae wedi denu ymwelwyr o bedwar ban byd ers hynny. Mae wedi cael ei redeg fel busnes teuluol ac yn adnabyddus am ei sgons, jam a hufen.