Gan gydnabod y gorgyffredinoli, gellid awgrymu mai gwraidd ymgyrch Yes Cymru yw dewrder a mentergarwch: parodrwydd i dorri tir newydd gan gredu, doed a ddelo, mai annibyniaeth yw’r unig wir – a diogel – obaith i Gymru.
Nid pawb sydd o blaid annibyniaeth – fe’u galwaf yn ‘NaWales’ er hwylustod y golofn heddiw. Gwaelod ‘NaWales’ yw doethineb – aros, parhau, gan mai undod yw hanfod nerth. Er nad yw’r Undeb yn berffaith, rhywbeth llawer gwaeth yw Annibyniaeth.
Dewrder a doethineb.
Mae dewrder yn rhinwedd. Yn wir, mae dewrder yn hanfodol i bob rhinwedd arall. Ofer fydd yr amcanion uchaf oni feddwn ar ddigon o ynni ac asgwrn cefn i wneud rhywbeth ymarferol i’w hyrwyddo. Ond nid yw dewrder bob amser yn rhinweddol. Dibynna ei werth ar yr achos a’r arglwydd y mae’n ei wasanaethu. Gwyddom yn iawn y gall dewrder fod yn ofnadwy o beryglus onid oes gweledigaeth wâr yn eu rheoli: heb weledigaeth, methu wna’r bobol. Gall dewrder slafaidd a gwroldeb diddychymyg wneud llawer mwy o niwed nag o les i gymuned a byd.
Mae doethineb yn rhinwedd; wedi’r cyfan:
Gwyn ei fyd y dyn a gafodd ddoethineb, a’r un sy’n berchen deall
(Diarhebion 3:13)
Ond nid yw doethineb ychwaith, bob amser, yn rhinweddol. Hawdd cael gweledigaeth werthfawr heb weithredu arni. Gall person fod yn ddeallus heb fod yn ddewr. Y mwyaf doeth y bo, hawsaf oll yw iddo fod yn araf i fentro. Ai dyma ein perygl a’n gwendid parod ni? Bydd amryw ohonom yn hoff odiaeth o ddarllen llyfrau a thrafod syniadau, a’r darllen a’r trafod yn creu a chynnal delfrydau aruchel ac egwyddorion ardderchog. Ond waeth inni hebddyn nhw oni ŵyr pobol oddi wrth ein hymddygiad beunyddiol ein bod yn ‘golygu busnes’.
Gallem, dylem weddïo yn amlach nag y gwnawn, fel hyn, gyda’r bardd John Drinkwater (1882-1937):
Knowledge, Lord, we ask not –
knowledge Thou hast lent,
Give us to build above the deep intent
The deed, the deed.
Fwyfwy, yn bersonol, ac fel eglwysi lleol, cytunaf â chyngor Leslie Weatherhead (1893-1976):
Don’t let us pray for guidance when we should be asking for guts.
Dw i’n gorffen fel y gwnes i ddechrau, gyda chyfaddefiad o orgyffredinoli: y mae pobol ddoeth yn ysgrifennu hanes; y mae pobol ddewr yn gwneud hanes. Ein tuedd ninnau yw canmol menter ein cyndeidiau a’n cyn-neiniau; a ydym yn eu canlyn? Rydym yn barod i edmygu eu haberth a’u harwriaeth, ond pa mor barod ydym i efelychu’r rhinweddau costus hyn? Y mae’r doeth yn ein plith; y mentrus sy’n brin.