Mae’n werth gofyn. Yn aml, gan fod y naill adeilad a’r llall yn agos iawn i’w gilydd, dw i’n mynd heibio mosg Shah Jalal ar fy ffordd i’r capel neu yn ôl. Ddechrau’r wythnos – nos Lun oedd hi – gan fy mod i’n cerdded, daeth cyfle i gael gwneud rhywbeth dw i wedi dymuno cael ei wneud ers yn hir nawr – cael gweld tu mewn i’r mosg hwn, a hynny yn bennaf oll gan mai capel oedd yr addoldy hwn yn wreiddiol.
Digwydd bod, roedd cwmni o ddynion yn ymgasglu wrth gatiau mawr y mosg, a chan fentro mwy nag sy’n arferol i mi, gofynnais a oedd modd i mi gael mynd i mewn i gael ei weld. Roeddwn wedi lled baratoi fy rhesymau am dresmasu, fel petai, ond ni fu eu hangen. Aethpwyd â fi i mewn yn hapus ddigon. Estynnwyd croeso gwresog.
Nid oedd fawr ddim i’w weld. Nid oedd meinciau, cadeiriau, set fawr, pulpud… Roedd naws yr addoldy hwn yn gwbl wahanol i’r hyn sy’n gyfarwydd a chysurus i ni. Roedd rhywbeth yn foel am y gofod hwn – moel, syml ddigon, ac at y pwrpas; ond nid gwag mo’r lle. Wn i ddim sut mae cyfleu’r peth yn y Gymraeg – “uncluttered” ydoedd.
Deniadol iawn oedd y gofod agored, syml hwn. Rhag i neb ddechrau meddwl, nid yw’n fwriad gennyf gael y Diaconiaid i ddechrau trafod tynnu’r meinciau a’r cadeiriau o’r capel. Dw i’n fwyfwy argyhoeddedig nad newid adeilad na phensaernïaeth ein hadeiladau mo’r ateb i’n trafferthion. Mae hynny, hyd yn oed, yn haws na’r hyn sydd wir angen ei wneud, sef creu a chynnal gofod glân, “uncluttered” i Dduw.
Mae bywyd yn flêr o bethau! Mae ein perthynas ag eraill yn llawn pethach a phetheuach; mae ein crefydd a’n crefydda’n cluttered. Mae ein systemau addysg ac iechyd yn drwm o bethach gweinyddol. Mae ein gwleidydda yn drwch o betheuach pleidiol, ac mae pleidiau o fewn pleidiau’n cecru am yr hyn sydd orau i’w wneud am y pethach a’r petheuach!
Adfent
Mae’r Adfent yn gyfnod i gydnabod cymaint o clutter sydd yn ein bywydau, pob darn ohono. Po fwyaf o betheuach a gasglwn o’n cwmpas, lleiaf oll o le sydd gennym i’r hyn sydd wir ei angen arnom – yr hyn sydd wir yn bwysig, sef ffydd, gobaith a chariad.
Trowch gyda mi i Efengyl Mathew. Dyma’r darn i’ch arbed rhag gorfod mynd i chwilio amdano:
Pan oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y Gwahanglwyfus, daeth gwraig ato a chanddi ffiol alabastr o ennaint gwerthfawr, a thywalltodd yr ennaint ar ei ben tra oedd ef wrth bryd bwyd. Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud, “I ba beth y bu’r gwastraff hwn? Oherwydd gallasid gwerthu’r ennaint hwn am lawer o arian a’i roi i’r tlodion.” Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, “Pam yr ydych yn poeni’r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi. Bydd y tlodion gyda chi bob amser, ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser. Wrth dywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, fy mharatoi yr oedd hi ar gyfer fy nghladdu. Yn wir, ‘rwy’n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yma yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani.
(26: 6-13)
Yn y stori hon, gwelwn sut all un weithred syml o ddefosiwn drawsnewid awyrgylch cluttered. Yn hyn, mae neges i bawb, boed yn berchen ffydd ai peidio. Ysgubwn y pethach a’r petheuach o’r neilltu, ac i’r Cristion, amlyga’r hyn sydd wir bwysig: Iesu, a’n perthynas ninnau ag ef.