Dyma eitem sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr Golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Audrey Cole sy’n dweud pam ei bod yn hoffi Neuadd a Gardd Erddig ger Wrecsam…

Mae Audrey Cole yn dod o Fwlchgwyn yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Wrecsam. Mae hi’n dysgu Cymraeg yng Ngholeg Cambria ers mis Mawrth 2023. Roedd Audrey wedi pasio ei harholiad mynediad ym mis Mehefin eleni ac yn y dosbarth Sylfaen rŵan.


Fy hoff le i ymweld ydy Neuadd a Gardd Erddig ger Wrecsam. Roedd yn gartref i’r teulu York am 200 o flynyddoedd. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen arno nawr.

Gerddi Erddig ger Wrecsam

Dw i’n hoffi’r coed a’r gerddi achos mae’r lliwiau’n newid gyda’r tymhorau.

Mae’r Afon Clywedog yn llifo drwy diroedd Erddig.

Dw i’n mwynhau gwylio’r bywyd gwyllt yno. Mae fy nheulu yn ymweld â’r neuadd yn aml.

Rydyn ni’n mynd am dro i Erddig ar Ddydd Nadolig ar ôl cinio.