Mae pair peryglus y Dwyrain Canol yn hawlio’r newyddion dyddiol ac yn ennyn sawl protest heddiw. Mae gwersyll heddwch wedi codi ger Pontio Bangor, a gorymdeithiau bob penwythnos yng Nghaerdydd. Daeth cannoedd â thraffig Stryd y Castell i stop bnawn Sadwrn diwethaf, yn llafarganu ‘Free! Free! Palestine‘ gyda’u baneri coch gwyn gwyrdd a du, cyn gorffen gyda rali fawr ar y Sgwâr Canolog. Roedd rhai’n chwifio baner drawiadol coeden gedrwydden Libanus yn yr awel hefyd, wrth i’r taflegrau a’r tywallt gwaed ddwysáu yn fan’no erbyn hyn. A dydd Sul nesaf, mae mudiad ‘Welsh Women 4 Gaza’ yn annog y cyhoedd i ymuno â nhw ger caffi’r Ardd Gudd ym Mharc Bute Caerdydd, i greu a hedfan barcutiaid – mewn undod â phlant Gaza sy’n dal record byd am y nifer fwyaf i hofran barcutiaid yr un pryd. Mi fydd y digwyddiad hwyliog i’r teulu cyfan yn un go sobreiddiol hefyd, o ystyried mai plant a menywod ydi dros hanner y 41,000 sy’n gelain yn Gaza ers mis Hydref 2023.

Bellach, dwi’n troi at sianel newyddion Al Jazeera fwyfwy ar y we i gael yr ochr Arabeg i bethau, yn hytrach na phopeth o safbwynt y Gorllewin sy’n dal i arfogi Israel. Ac mae llywodraeth adain dde eithafol Netanyahu yn gwneud popeth o fewn ei gallu i fygu’r “ochr arall” i’r rhyfel – gan gau stiwdio Jerwsalem ym mis Mai a gwahardd newyddiadurwyr Al Jazeera rhag darlledu ar dir Israel. Fis diwethaf, fe wnaeth milwyr Israel feddiannu biwro Al Jazeera yn Ramallah yn y Lan Orllewinol, a’i gorchymyn i stopio gweithio. Meddai Walid al-Omari, pennaeth y biwro, yn fuan wedyn:

Mae targedu newyddiadurwyr fel hyn bob amser yn anelu at ddileu’r gwir ac atal pobol rhag clywed y gwir… rydyn ni’n galw ar bob sefydliad a grŵp cyfryngol sy’n ymwneud â hawliau dynol yn y byd i gondemnio’r drosedd erchyll hon… sy’n mynd yn groes i ryddid y wasg a’r cyfryngau.

Does dim cyfyngiadau ar y BBC hyd yma, felly aeth Gwyn Loader a Rhodri Llywelyn yno ar ran criw Newyddion S4C, i nodi blwyddyn ers ymosodiad erchyll Hamas ar ŵyl gerddorol Re’im a sawl kibbutz arall. Cawsom becyn o dde Israel lle’r oedd teuluoedd y gwystlon yn dal i ymgyrchu dros ryddhau’r cant sy’n dal yn llain Gaza – gan gynnwys cefnder pwyllog un ohonyn nhw oedd yn crefu am gadoediad i roi terfyn ar golli bywydau diniwed “on both sides of the border”. Aeth Gwyn Loader i’r Lan Orllewinol i groniclo’r dioddefaint ar yr ochr arall. Cawsom gyfweliad gyda mam alarus Balesteinadd yn sôn am filwyr Israel yn dod i’w cartrefi a churo os nad cipio bechgyn ifanc yn ddigyhuddiad, tra soniodd y Maer lleol am fygythiadau rheolaidd gan setlwyr Iddewig yn llosgi adeiladau a lladd anifeiliaid da byw ym mhentref Arabaidd al-Mughayyir.

Teulu o setlwyr y Lan Orllewinol a ffoaduriaid Palesteinaidd ydi testun ffilm ddogfen ardderchog A State of Rage ar Channel 4; ond yn fwy na hynny, ffilm o enau plant bychain o’r ddwy ochr. Ar un llaw, roedden ni’n dilyn Jana, 10 oed o ddinas Jenin yn y Lan Orllewinol, yn ysu i drwsio’i beic – a’i thad yn addo hynny fory, cyn belled nad oedd y fyddin Israelaidd yn dod i chwalu’r gwersyll ffoaduriaid cyfagos. Aiff ar anturiaethau rheolaidd hyd y strydoedd rwbelog gyda’i ffrind gorau Heba, gan ddod ar draws olion y brwydro, gan gynnwys bom car diweddar. Mor ddiweddar, nes bod Heba eofn yn pigo rhywbeth o’r dashfwrdd du ulw: “Mae’n debyg i gnawd… sbïa! Weli di’r gwaed yn dod ohono?” Maen nhw’n mynd ymlaen i chwarae sowldiwrs ger murluniau o ‘ferthyron’ ifanc Palesteinaidd, gan fynnu bod “rhaid i bob plentyn gario arf a gwrthsefyll”. Plant deg oed, cofiwch!

Dro arall, roedd y ffilm yn dilyn teulu Iddewig brafiach eu byd, gyda thŷ a phatio hyfryd dros gefn gwlad Havat Gilad – un o’r 140 gwladychfa Iddewig sydd wedi bwrw gwreiddiau anghyfreithlon ar dir Palesteinaidd. Mae’r ddwy chwaer, Renana, 16, and Naomi, 14 oed, o’r farn mai “canibaliaid” ydi’r Arabiaid, ac yn sgrolio’n ddiddiwedd drwy’u ffonau, gan wylio fideos pop â geiriau fel “fe goncwerwn ni Gaza â gwaed cyn bo hir”. Efallai bod y ffaith fod eu tad, oedd yn Rabbi, gael ei saethu’n farw wrth ddreifio ger dinas Balesteinaidd yn 2018 wedi hogi eu hagwedd eithafol.

Does dim llefarydd i styrbio ar y cynnwys, na gohebydd i lywio’r dweud – dim ond siarad plaen gan blant sydd mewn rhyfel parhaus. Bydd yn eich gadael yn gegrwth. Ac yn gwneud i chi deimlo’n reit anobeithiol am ateb heddychlon i’r rhan hon o’r byd yn fuan iawn.