Dyma gyfres newydd o eitemau sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr Golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Ian Rouse o’r Ardal Ddu sy’n dweud pam mai Llwybr Arfordir Ceredigion yw ei hoff le yng Nghymru…
Ian dw i. Dw i’n byw yn yr Ardal Ddu (Black Country) yng nghanolbarth Lloegr.
Fy hoff le yng Nghymru ydy Llwybr yr Arfordir o Forfa Bychan i Draeth Tanybwlch ger Aberystwyth.
Dw i’n hoffi Llwybr yr Arfordir yn fawr iawn. Mae carafán gyda ni ym mharc gwyliau Morfa Bychan a dw i wrth fy modd yn cerdded ar y llwybr i Danybwlch. Mae’r golygfeydd ar y llwybr yn ogoneddus: y môr sy’n newid lliw yn ôl y tywydd, tai lliwgar Aberystwyth, a phan fydd hi’n glir, Pen Llŷn a hyd yn oed mynyddoedd Eryri yn y pellter.
Mae’n cymryd tri chwarter awr i gyrraedd Traeth Tanybwlch o’r garafán ac ar ôl y daith dw i wrth fy modd yn eistedd ar fainc am hanner awr wrth wneud dim byd ond edrych ar y môr ac ymlacio cyn cerdded nôl ‘adre’ i’r garafán: talcen caled oherwydd bod Allt Wen yn serth dros ben ond dw i’n hoffi’r her gorfforol – fy nghalon yn curo’n gyflym ac yn swnllyd!
Dw i wedi cael ambell i sgwrs yn y Gymraeg ar y llwybr a, nawr ac yn y man, bydda i’n cwrdd â rhywun sydd ar fin neidio o’r clogwyni gyda’i baragleidir neu rywun arall sy’n chwilio am Frain Coesgoch. Unwaith cwrddais i â dyn o Bradford oedd yn cerdded o gwmpas holl arfordir Prydain.
Fel arfer byddan ni’n treulio rhwng naw a deg wythnos yn y garafán bob blwyddyn a bydda i’n cerdded ar y llwybr sawl tro bob wythnos. Bydda i’n cerdded i’r de, i gyfeiriad Llanrhystud weithiau hefyd.
Unrhyw ffeithiau difyr?
Roedd Mynachdy’r Graig sydd wedi’i leoli ar Lwybr yr Arfordir i’r de o Forfa Bychan yn perthyn i Abaty Ystrad Fflur. Roedd y mynachod yn pysgota yno canrifoedd yn ôl.