Aeth dros 90% o raddedigion cynllun sy’n cefnogi dysgwyr mwyaf galluog Cymru ymlaen i astudio addysg uwch eleni, gyda 53% yn cael lle mewn prifysgol yng Ngrŵp Russell.
Nod Academi Seren yw cefnogi’r dysgwyr mwyaf galluog i gael “yr uchelgais, y gallu a’r chwilfrydedd i gyflawni’u potensial”, waeth beth fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i danio chwilfrydedd, grymuso dewis a hyrwyddo potensial er mwyn annog mwy o ddysgwyr i fanteisio ar addysg uwch mewn prifysgolion blaenllaw.
Ar hyn o bryd, mae’r academi’n cefnogi tua 23,000 o ddysgwyr rhwng Blwyddyn 8 a Blwyddyn 13 ym mhob ysgol, chweched dosbarth a choleg yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae’r cynllun wedi derbyn beirniadaeth, gyda rhai, gan gynnwys ysgolheigion fel Derec Llwyd Morgan, yn dweud na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn annog myfyrwyr disglair Cymru i fynd i golegau blaenllaw yn Lloegr.
‘Hyder i ymgeisio i brifysgolion’
Roedd Kyle Greenland yn rhan o garfan gyntaf myfyrwyr Seren, ac aeth yn ei flaen i astudio BSc mewn Biowyddorau Meddygol a gradd feistr mewn Bioleg Canser yng Ngholeg Imperial Llundain.
Bellach, mae’n cwblhau misoedd olaf ei ddoethuriaeth.
“Un o’r heriau mwyaf a wynebais yn yr ysgol oedd cael yr hyder i ymgeisio am le mewn prifysgolion,” meddai Kyle Greenland.
“Rhoddodd Seren yr hyder i mi wthio y tu hwnt yr oeddwn yn gyfarwydd ac yn gyffyrddus ag e, ymchwilio i sefydliadau academaidd, a chymryd y naid i astudio cwrs STEM.
“Helpodd yr amrywiaeth o weithdai a gynigiodd Seren fi i edrych ar wahanol feysydd, o ffiseg a mathemateg i feddygaeth, fel y gallwn ddarganfod pa faes o STEM oedd yn taro deuddeg gyda mi.
“Roedd cwrdd â thiwtoriaid derbyn ac academyddion o wahanol brifysgolion yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i rwydweithio ac fe wnaethant fy helpu i ddeall sut beth fyddai bywyd yn y brifysgol mewn gwirionedd.
“Roedd y gefnogaeth a roddodd Seren i mi yn ei gwneud hi’n bosibl i mi anelu at, a chyflawni, nodau addysg uwch yr oeddwn dan yr argraff, ar un adeg, eu bod tu hwnt i fy nghyrraedd.”
‘Effaith enfawr’
Dywed Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, ei bod hi “mor falch” o raddedigion Seren a’u cyflawniadau.
“Mae Seren yn rhwydwaith anhygoel sydd wedi cael effaith enfawr ar gyflawniad ein pobol ifanc drwy alluogi ein dysgwyr sy’n disgleirio i ddarganfod yr holl opsiynau sydd ar gael iddyn nhw,” meddai.
“Mae cael gwybodaeth am y cyfleoedd hyn, a’r hyder i ymgeisio am le, yn hanfodol i’n dysgwyr a’n pobol ifanc allu dewis llwybrau sy’n eu boddhau ac yn cyd-fynd â’r hyn maen nhw eisiau ei gyflawni.”