Ni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn annog myfyrwyr disglair Cymru i fynd i golegau blaenllaw Lloegr.

Dyna farn Derec Llwyd Morgan, ysgolhaig, llenor, a chyn-Is-Ganghellor Coleg Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi beirniadu rhaglen gwerth miliwn o bunnau ‘Rhwydwaith Seren’ Llywodraeth Cymru sy’n annog myfyrwyr disgleiriaf Cymru i fynd i rai o brifysgolion gorau Prydain.