Mae cynlluniau i godi rhagor o dai gwyliau ar gyrion y pentref sydd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd – 88% – wedi codi gwrychyn aelodau o’r clwb pysgota lleol.

Cymdeithas Bysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni sy’n berchen glannau’r Afon Seiont a hanner gwely’r afon honno sydd union dros ffordd â hen westy Seiont Manor ar gyrion pentref Llanrug yng Ngwynedd.

Perchennog newydd y gwesty, sydd ar gau ers peth amser, yw Caernarfon Properties Cyf.