Mae Aelod o’r Senedd cyntaf Llafur tros ranbarth y Gogledd yn dweud ei bod yn edrych ymlaen at dymor o gydweithio gyda phleidiau eraill.

Yn 2016 cafodd dau aelod UKIP eu hethol i gynrychioli rhanbarth ‘Gogledd Cymru’, ynghyd ag un yr un i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr.

Mae’r cenedlaetholwr, Llŷr Gruffydd, a’r Tori, Mark Isherwood, wedi cadw eu seddi ond ni fydd y Brexitiaid Mandy Jones a Michelle Brown yn dychwelyd.