Fel creadur mewn cocŵn, mae Llafur Cymru yn newid o hyd, ac mae’n debyg mai ffermwyr yw’r diweddaraf i elwa o’r metamorffosis.

Dros y degawd diwethaf mae hi wedi rhoi mwy o bwys ar ei Chymreictod, a dros y flwyddyn ddiwethaf mae wedi bod yn galw am ddatganoli mwy o bwerau i Gymru – roedd ambell ymgeisydd Llafur hyd yn oed o blaid annibyniaeth yn yr etholiad diwethaf