Mae angen “gweithredu nid jest geiriau” gan Lywodraeth Cymru os yw hi am wella gwasanaethau iechyd meddwl y genedl, yn ôl Aelod newydd o’r Senedd.

James Evans yw AoS Ceidwadol Brycheiniog a Sir Faesyfed ac mae yn dweud y bydd y mater hwn yn flaenoriaeth iddo yn ystod ei gyfnod yn y Bae.

Yn fab i nyrs iechyd meddwl, ac yn ddyn sydd wedi profi anhwylder iechyd meddwl ei hun, mae’n siomedig â gwaith y Llywodraeth yn y maes.