Mae criwiau ifanc o’r de wedi bod yn gweithio ar dair sioe gerdd newydd yn seiliedig ar ymatebion ar-lein i anerchiadau gan wleidyddion dros flwyddyn y pandemig.

Daw’r artistiaid ifanc o ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Pen-y-bont, Caerdydd a Chastell-nedd Port Talbot sy’n rhan o Academi Leeway eleni – academi greadigol newydd o dan ofal cwmni Cynyrchiadau Leeway, mewn partneriaeth gyda Theatr Soar ym Merthyr Tudful a Theatr Genedlaethol Cymru.