O gofio mai Dail Pren oedd teitl unig gyfrol Waldo Williams o farddoniaeth, roedd hi’n arbennig o addas bod plant o un o hen ysgolion y bardd yn hongian ei gerddi ar goed.
Bu Waldo yn athro am blwc yn Ysgol Llanychllwydog yng Nghwm Gwaun, Sir Benfro, ac yn ddiweddar bu plant yr ysgol honno yn addurno coed â cherddi ganddo i gofio hanner canrif ers ymadawiad y bardd mawr.
Darllenwch fwy am Waldo isod…
Hanner canrif ers colli Waldo
Yma mae Dafydd Iwan, Mererid Hopwood, Lleucu Siencyn ac eraill yn egluro apêl ‘bardd mwyaf Cymru’