Mae artist sy’n ferch i ddyn a ddihangodd o’r Rwsia Gomiwnyddol eisiau helpu’r byd drwy ei chelf…

Mae darlun sydd yn ffenestr oriel fach yng Nghaerfyrddin wedi peri i rai pobol ddod i mewn a chwyno amdano.

Y darlun sydd i’w weld yn ffenestr Oriel Bevan Jones yw ‘Spoiling the View’ gan yr artist Dorothy Morris, sy’n rhan o’i harddangosfa ‘We Are Sacred, We Are Beautiful Part 3’ sydd ymlaen tan Fehefin 12.