Nid “camp hawdd” yw sgrifennu nofel dda i’r arddegau, ond fe lwyddodd yr awdur Rebecca Roberts i wneud hynny â’i nofel “ardderchog”, #Helynt.

Dyma farn beirniaid Gwobrau Tir na n-Og 2021 a ddyfarnodd i’r nofelydd o Brestatyn y brif wobr yng nghategori uwchradd y gwobrau yn ddiweddar.