Mae merch Betty Campbell – prifathrawes ddu gyntaf Cymru – wedi canmol awdures Gymraeg am ei hymchwil i’w nofel am fywyd ei mam enwog.
Fodd bynnag, ers i’r nofel Y Lliwiau i Gyd gan Wasg Carreg Gwalch gael ei chyhoeddi, mae’r awdur Casia Wiliam wedi dweud ar ei chyfrif Facebook ac wrth gylchgrawn Golwg na fyddai hi wedi derbyn y comisiwn pe bai yn ei chael heddiw.
Mae hynny’n bennaf oherwydd y trafodaethau brwd fu yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl i’r Eisteddfod ddileu’r Fedal Ddrama eleni – yn benodol felly, y trafodaethau am yr honiad nad yw eto wedi ei gadarnhau gan yr Eisteddfod mai’r rheswm dros ddileu’r wobr oedd bod elfen o “feddiannu diwylliannol” yng ngwaith buddugol awdur gwyn.
“Dw i wirioneddol wedi mwynhau ysgrifennu’r llyfr yma,” meddai Casia Wiliam yn rhifyn diweddaraf Golwg (10 Hydref).
“Mae’n teimlo fel anrhydedd fy mod i wedi cael cynnig i ysgrifennu llyfr mor bwysig.
“Dw i ddim yn siŵr taswn i’n cael y cynnig eto y byddwn i’n derbyn oherwydd yr holl bethau dw i wedi’u darllen yn ddiweddar.
“Dw i wedi trio rhoi fy hun yn esgidiau pobol eraill, a meddwl efallai nad fy lle i oedd dweud y stori yma. Dw i ddim yn gwybod.
“Fedra i ddim troi’r cloc yn ôl ac mae’r llyfr allan yna rŵan.”
Gobaith yr awdur yw y bydd y llyfr yn arwain at ragor o lyfrau am Betty Campbell gan bobol sy’n hanu o’r un gymuned â hi.
“Mae cymaint o bobol efo straeon am Betty, ac am bobol eraill anhygoel o dde Cymru yn y cyfnod yma,” meddai.
“Yr hyn dw i’n gobeithio rŵan… ei fod o yn esgor ar ragor o weithiau gan bobol efallai o’r un gymuned a’r un cefndir â Betty.”
‘Yr hyn sydd ei angen yw parchu’ – beth bynnag yw lliw eich croen
Bu Casia Wiliam yn ymchwilio’n ddyfal i hanes Tiger Bay a hanes Betty Campbell – un a newidiodd agweddau tuag at addysg amlddiwylliannol yn ei swydd yn brifathrawes Ysgol Mount Stuart, Butetown.
Teithiodd lawr i gwrdd â’r teulu yng Nghaerdydd i’w holi am ei hanes ac fe blesiodd hyn y teulu’n fawr, yn ôl merch yr arwres.
“Mae’r llyfr yn crynhoi sut yr oedd hi mewn ffordd ffuglennol, wedi’i gydblethu â ffeithiau,” meddai Elaine Clark.
“Fe gawson ni lawer o gyfarfodydd gyda Casia ac roedd hi’n dda iawn yn hysbysu ac yn cynnwys y teulu tra roedd hi’n gweithio arno.
“Daeth hi â fy mrodyr a mi yn rhan o’r gwaith, ac os nad oedden ni’n hapus gyda rhywbeth, byddai hi’n mynd i’w ailysgrifennu.
“Roedd hi’n gweithio gyda’r teulu.”
Yn ôl merch Betty Campbell, yr hyn sy’n bwysig yw bod awdur yn ymgynghori gyda’r teulu, yn hytrach na lliw eu croen.
“Mae pethau wedi cael eu hysgrifennu am fy mam a dydy pobol ddim wedi siarad â’r teulu amdano,” meddai Elaine Clark.
“Mae angen i chi gael rhywfaint o ddealltwriaeth.
“Dw i’n gwybod fod Casia, sydd yn wyn, yn gwneud y llyfr yma, ond mae hi wedi… cysylltu â ni fel teulu, a gweld beth oedd ein daliadau ni a’n safbwyntiau.
“Gallwch chi gael person du yn ysgrifennu am fy mam, ond fe allan nhw fod â’r wybodaeth anghywir.
“Allwch chi ddim dweud ‘oherwydd eich bod yn lliw gwahanol, allwch chi ddim ysgrifennu am berson o liw arall’. Yr hyn sydd angen i chi ei wneud yw sicrhau a pharchu, pwy bynnag rydych yn ysgrifennu amdanyn nhw.”
Y trafodaethau ‘blêr’ wedi bod yn llesol
Mae’r sgwrs am gynrychiolaeth yn y byd cyhoeddi Cymraeg “wedi neidio ymlaen bum mlynedd” o’i gymharu â lle byddai hi heb y trafodaethau am y Fedal Ddrama, yn ôl Casia Wiliam.
Ym marn yr awdur o Gaernarfon, mae’r drafodaeth gododd am ‘feddiannu diwylliannol’ yn dilyn stŵr y Fedal Ddrama eleni wedi bod yn llesol.
“Dw i’n meddwl bod pethau yn cael eu gwneud efo’r bwriad cywir,” meddai.
“Dw i’n meddwl bod yr ewyllys yn gywir bob amser, a bod awduron Cymru yn reit effro i’w cyfrifoldebau fel awduron.
“Dw i ddim yn meddwl bod llawer o sgrifennu anghyfrifol yn llawn stereoteipiau yn digwydd.
“Er mor anffodus oedd y digwyddiad efo’r Eisteddfod, a pha mor flêr oedd hynna i gyd, dw i yn meddwl bod y drafodaeth sy’ wedi dod yn sgil hynny yn beth da.
“Trafodaeth mae hi angen bod.
“Mae hi angen bod yn rhywbeth parhaus, ac yn beth cadarnhaol, fydd yn ein symud ni ymlaen o ran llenyddiaeth Gymraeg.
“Er mor anffodus oedd y digwyddiad efo’r Eisteddfod, ac annheg ar lot o bobol, efallai ein bod ni wedi neidio ymlaen bum mlynedd o’i gymharu â lle fydden ni wedi bod fel arall o ran y sgwrs yma.”