Mae awdur o Ben Llŷn wedi cyhoeddi nofel am fywyd rhyfeddol prifathrawes ddu gyntaf Cymru…

Betty Campbell, a gafodd ei magu yn ardal y dociau yng Nghaerdydd, oedd prifathrawes ddu gyntaf Cymru.

Bu’n ysbrydoliaeth i ddegau o blant cymuned aml-diwylliannol Tiger Bay, ac fe heriodd y drefn er gwell.