Un o lwyddiannau mawr Ceredigion ers dros hanner canrif yw panto Nadolig Theatr Felin-fach. Mae hi yn ei hôl eleni eto – o, odi!
Bob blwyddyn fe fydd Theatr Felin-fach yn dewis thema ar gyfer y pantomeim. Eleni, un o gewri’r sir, Cranogwen, yw’r thema.
Fe gafodd Sarah Jane Rees ei geni yn 1839 yn Llangrannog a bu yn athrawes a morwr nodedig, Cranogwen oedd ei henw barddol, ac mae yn cael ei chofio fel arloeswraig mewn sawl maes.