Wrth gwrs bod y cyfraniad diweddara’ at y celfyddydau yng Nghymru o help. Ond, mewn gwirionedd, wnaiff £1 miliwn rhwng 60 o gyrff ddim llawer o wahaniaeth.

Mae’n rhaid gosod y ffigwr ochr yn ochr â’r argyfwng sy’n wynebu’r celfyddydau yng Nghymru, ar ôl blynyddoedd o doriadau a thrafferthion fel Cofid.

Dim rhyfedd fod yna ymgyrch gry’, dan arweiniad llawer o enwogion, yn gwthio am ragor o arian i sefydliadau mawr fel Opera Cymru a’r cwmnïau theatr cenedlaethol.