Mae arolwg Barn Cymru, sy’n cael ei gynnal gan YouGov mewn partneriaeth gyda Chanolfan Llywodraethiant Cymru ac ITV Cymru, yn rhagweld Plaid Cymru ar y brig o ran cyfran pleidleisiau ar gyfer etholiad Senedd 2026.
Yn ôl ffigyrau’r pôl piniwn diweddaraf, mae Plaid Cymru yn gyntaf gyda 24% o’r bleidlais, Llafur a Reform yn ail gyda 23%, a’r Torïaid yn ôl ar 19%.