Ers rhyddhau’r bangar ‘Dal Dig’ ym mis Tachwedd 2023, mae’r gantores 18 oed wedi ennill ei phlwyf yn y Sîn Roc Gymraeg.

Fe gafodd Haf a hanner ‘leni yn perfformio ym Maes B Pontypridd a Thafwyl Caerdydd, ac yn ddiweddar wnaeth hi ryddhau ei hail sengl, ‘Unfan’.

Mae Buddug Jones yn byw ym mhentref bach Brynrefail ger Llanberis, ac mae hi’n gweithio yn yr amgueddfa lechi leol…

Beth fu eich uchafbwynt hyd yn hyn eleni?