Mae Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) wedi penodi Llŷr Morus yn gadeirydd.

Ar hyn o bryd, mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cwmni cynhyrchu Cynyrchiadau Mojo Productions.

Mae TAC yn gyfrifol am gynrychioli’r sector cynhyrchu teledu annibynnol mewn trafodaethau gyda darlledwyr a gwneuthurwyr polisi.

Cafodd penodiad y cadeirydd newydd ei gyhoeddi yng nghyfarfod y corff ddoe (dydd Mercher, Hydref 16).

Llŷr Morus

Mae Llŷr Morus wedi bod yn gweithio ym myd cynhyrchu ers 30 o flynyddoedd, gan weithio yn y sector annibynnol ac fel aelod o staff BBC Cymru.

Roedd ei waith cynnar yn canolbwyntio ar adloniant ysgafn, cyn iddo weithio ar raglenni i blant ac yna ar ddramâu.

Ymhlith ei waith diweddar mae Un Bore Mercher / Keeping Faith 3, Cyswllt, Fflam, Dal y Mellt a Hafiach.

Dywed Cyngor TAC ei fod yn “eiriolwr brwd dros ddatblygu talent o fewn y diwydiant”.

Gwaith TAC

Bydd disgwyl i Llŷr Morus arwain trafodaethau’r Cyngor gydag S4C, BBC Cymru, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y Deyrnas Unedig, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a sefydliadau creadigol.

Bydd disgwyl iddo gymryd rhan mewn prosesau statudol megis Adolygiad Ofcom o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus y Deyrnas Unedig.

Yn ogystal, yn rhan o Adolygiad Siarter y BBC flwyddyn nesaf, bydd gofyn iddo geisio sicrhau cyllid cyhoeddus i’r BBC ac S4C.

Bydd yn cydweithio â Sioned Haf Roberts, Rheolydd Cyffredinol TAC.

Olynu Dyfrig Davies

Dyfrig Davies TAC
Dyfrig Davies

Bydd Llŷr Morus yn olynu Dyfrig Davies, y cadeirydd presennol.

Mae Dyfrig Davies yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni Telesgop, ac fe fu’n gadeirydd TAC ers tair blynedd.

Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gweithio i sicrhau bod y rheolau ynghylch comisiynu tu allan i Lundain yn cael eu dilyn gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.

Yn rhan o’i ymdrechion, bu’n lobïo ar Fesur y Cyfryngau yn y Senedd ac ar gonsesiwn gan yr awdurdod rheoleiddio Ofcom i fynnu mwy o gomisiynu yn y cenhedloedd.

“Mae gwaith TAC mor bwysig, gan sicrhau bod y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn parhau i fod yn fywiog a llwyddiannus,” meddai Dyfrig Davies.

“Mae wedi bod yn fraint bod yn gadeirydd.

“Gwn fod Llŷr yn rhannu’r angerdd am y gwaith hwn, a bydd ei brofiad mor fuddiol i’r sector wrth symud ymlaen.

“Dymunaf y gorau iddo.”

‘Parhau â’r gwaith da’

“Hoffwn ddiolch i Dyfrig am ei holl waith caled, arweiniad ac egni yn ystod ei dair blynedd fel cadeirydd TAC, ac am roi anghenion yr aelodau ar flaen yr holl drafodaethau bob amser,” meddai Llŷr Morus.

“Edrychaf ymlaen at barhau â’r gwaith da a wnaed gan Dyfrig a’r tîm a chynrychioli ein haelodau yn ystod y cyfnod ansicr hwn i’r diwydiant er mwyn sicrhau dyfodol disglair i’r sector yng Nghymru a thu hwnt.”