Bydd Sara Davies, enillydd Cân i Gymru eleni, yn perfformio’i sengl newydd yn fyw am y tro gyntaf yng Ngwobrau BAFTA Cymru yng Nghasnewydd nos Sul (Hydref 20).

I gyd-fynd â’i chân newydd, ‘Just Like in the Movies’, bydd fideo yn serennu’r actor Jack Parry Jones hefyd yn cael ei ddangos yn ystod y seremoni.

Bydd y gantores yn rhyddhau ei sengl newydd ar bob platfform yn dilyn y gwobrau, a bydd y fideo ar gael ar sianel YouTube Sara Davies.

Daeth y gantores i’r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn gynharach eleni, a chipiodd hi’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

‘Diolch’

Mae Sara Davies yn “edrych ymlaen” i gael y cyfle i berfformio’i sengl newydd yng Ngwobrau’r BAFTA Cymru eleni, meddai, ac yn teimlo ei bod yn “gwneud synnwyr” i’w chanu am y tro cyntaf yn ystod y seremoni, gan fod y gân yn sôn am ffilmiau.

“Ar ôl llwyddiant ‘Anfonaf Angel’, roeddwn i eisiau cynhyrchu cân arall fyddai’n gwneud i bobol deimlo’n dda, a dwi’n edrych ymlaen at ei rhyddhau,” meddai.

“Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Jack hefyd.

“Cawson ni gymaint o hwyl yn ffilmio’r fideo, fydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf Nos Sul.”

Mae hi’n diolch i BAFTA Cymru am ei gwahodd i berfformio’i sengl newydd.

Cafodd Jack Parry Jones amser “bendigedig” yn ffilmio’r fideo ar gyfer y sengl newydd Sara, meddai.

“Roedd gweithio gyda Sara yn wych.

“Mae’n grêt bod ei chân newydd yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngwobrau BAFTA Cymru eleni, seremoni sydd yn agos at fy nghalon ar ôl derbyn y wobr am yr Actor Gorau yn 2017.

“Pob lwc i Sara, yr enwebai, ac i bawb sydd yn cymryd rhan nos Sul!”

‘Fyddwch chi ddim eisiau ei golli’

Dywed Rebecca Hardy, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, eu bod nhw wrth eu boddau fod Sara Davies yn perfformio ‘Just Like in the Movies’ am y tro cyntaf ar eu llwyfan.

“Mae’n wych cael cyn-enillydd BAFTA Cymru yn cymryd rhan hefyd, ac mae’n hyfryd gweld Jack yn rhan o’r prosiect,” meddai.

“Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n tiwnio mewn i wylio’r cyfan yn fyw ar sianel YouTube BAFTA — fyddwch chi ddim eisiau ei golli.”

Bydd ’Just Like in the Movies’ yn cael ei rhyddhau o dan enw label Coco & Cwtsh, ac yn ragflas o albwm Sara Davies, fydd yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn.

Yn ôl Ffion Gruffudd, Prif Weithredwr label Coco & Cwtsh, mae’r gwasanaeth cynhyrchu cerddoriaeth yn “falch iawn” o gynhyrchu perfformiad byw seremoni BAFTA Cymru eto eleni.

“Cafodd Sara ei geni i ganu, a does dim amheuaeth y bydd ei chân newydd ‘Just Like in the Movies’ yn llwyddiant arall iddi,” meddai.

“Diolch enfawr i Jack am ymuno â ni yn y fideo hefyd, roedd yn bleser gweithio gydag actor talentog a pherson mor hyfryd.”