Gyda’r gyfres sebon Pobol y Cwm yn dathlu’r hanner cant y mis hwn, dyma lun o’r cast benywaidd cyntaf nôl yn 1974, sef Gillian Elisa, Gaynor Morgan Rees, Lisabeth Miles, Menna Gwyn a Betsan Jones.

Yr actores, digrifwraig a chantores Gillian Elisa oedd yr ieuengaf o’r cast i gyd yn ystod y penodau cyntaf yma.

“Fel allech chi ddychmygu, roedd y cynnwrf yn hudol a ro’n i methu aros i ymuno gyda’r merched dawnus, creadigol, addysgiadol yma a ddaeth yn ffrindiau annwyl i mi… bron sen i’n gweud eu bod nhw’n chwiorydd i mi,” cofia Gillian Elisa sy’n byw yn Llanbed, Ceredigion, lle cafodd ei magu.

Y llun yma oedd y photo shoot cyntaf erioed i hyrwyddo Pobol y Cwm yn 1974, ac roedd Gillian Elisa newydd dderbyn y rôl i chwarae Sabrina Harries yn y gyfres sebon.

Roedd Gillian Elisa wedi dychwelyd i Gwmderi rhwng 2000 a 2005

“Ynghanol y gore”

“Doeddwn i ddim wedi actio yn un o’r penodau eto pan gafodd y llun yma ei dynnu. Megis fi oedd y babi! Roeddwn i’n edrych lan ar Gaynor [Morgan Rees], Lis [Miles], Menna [Gwyn] a Betsan [Jones] oherwydd eu profiad actio’n broffesiynol, ar y llwyfan a theledu yn yr iaith Gymraeg. Roedden nhw’n rhan o’r criw actio ar y pryd, wnaeth ddenu’r cynhyrchwyr yn y BBC i feddwl ymhellach i gael y gyfres yma ar ei thraed.

“Fe gollon ni Menna druan rai blynydde nôl. Personoliaeth addfwyn, hyfryd a llawn hwyl bob tro, roeddwn i’n joio bod yn ei chwmni a dw i’n ei cholli’n fawr iawn. Wnaeth hi helpu fi shwt gymaint ar y dechre. Dw i’n dal  yn ffrindiau mawr gyda Gaynor, Lis a Betsan. Trwpers cryf, ac yn ffyddlon i’r carn… yn aml yn gweithio, cael sgyrsie ar y ffôn neu gwrdd am goffi gyda nhw’n tair. Diolch byth amdanyn nhw. Roeddwn i’n ferch lwcus iawn i fod ynghanol y gore, ar gyfer fy arwain yn y byd actio yma,” meddai Gillian Elisa.

Rhestr o gast gwreiddiol Pobol y Cwm yn 1974

“Dwli ar Liza Minnelli”

Dewisodd yr enw Elisa Thomas fel ei henw Equity [yr undeb sy’n cynrychioli actorion a pherfformwyr] ar y dechrau “achos roeddwn i’n dwli ar Liza Minnelli yn y ffilm Cabaret, ac wedi teimlo’n euog wedyn, am fy mod i wedi anwybyddu’r enw roedd fy mam wedi rhoi i mi. Felly newidies i fe i Gillian Elisa Thomas. Wedyn ges i neges wrth graphics yn gofyn a allen i fyrhau fy enw! Achos roedd e’n rhy hir i roi ar y credydau ar ddiwedd y rhaglen. A dyma fi’n penderfynu ar Gillian Elisa – o’r diwedd!”

Pen-blwydd Hapus iawn Pobol y Cwm!

Mae Gillian Elisa wedi bod yn rhannu ei hatgofion bwyd yn yr eitem Ar Blât yr wythnos hon…