Hanner canrif yn union yn ôl ymddangosodd Pobol y Cwm ar y sgrin am y tro cyntaf.
Cafodd y bennod gyntaf ei darlledu ar BBC Cymru am 7:10 ar nos Fercher, Hydref 16, 1974, rhwng rhaglen nosweithiol Heddiw a’r gyfres gomedi Some Mother Do ‘Ave ‘Em.
Ym mhennod neithiwr (nos Fawrth, Hydref 15), fe wnaeth un o gymeriadau mwyaf cofiadwy’r opera sebon, Dyff Jones, ddychwelyd i’r gyfres, a hynny chwarter canrif ers ei angladd.
Mae’r opera sebon “wedi bod yn fodd o gyfoethogi” drama a llenyddiaeth Cymru, medd un o gyfranwyr llyfr newydd i ddathlu’r 50.
Mae 50 Pobol y Cwm yn llawn straeon ac atgofion gan rai fu’n rhan o’r gyfres dros y blynyddoedd – o actorion i awduron i bobol sain a chamera i reolwyr lwyfan a chynllunwyr gwisgoedd.
Un o’r rheiny yw Wiliam O Roberts, wnaeth ddechrau ysgrifennu i’r gyfres dros 30 mlynedd yn ôl.
“Cymwynas fwyaf cyfundrefn sgriptio Pobol y Cwm oedd ei hyblygrwydd hi, gan ei bod hi’n bosib i rywun gamu i mewn a chamu allan o’r amserlen waith, weithiau am gyfnod o fisoedd neu hyd yn oed fwy,” meddai yn y llyfr.
“Dyna pam ei bod hi’n deg honni bod Pobol y Cwm wedi bod yn fodd o gyfoethogi ein drama a’n llenyddiaeth ni.”
50 o atgofion gan 50 o bobol
Cymeriad Harri Parri, oedd yn cael ei chwarae gan yr actor Charles Williams, oedd â’r geiriau cyntaf yn y gyfres, a hynny’n cyflwyno Maggie Post.
Dros y blynyddoedd, mae cannoedd o gymeriadau wedi mynd a dod yng Nghwm Deri.
Mae’r gyfrol newydd yn cynnwys atgofion gan actorion megis Lisabeth Miles (‘Megan’), Gillian Elisa (‘Sabrina’) a Gaynor Morgan Rees (‘Nerys Cadwaladr’), a rhai ymunodd ychydig yn ddiweddarach fel Ifan Huw Dafydd (‘Dic Deryn’) a Gareth Lewis (‘Meic Pierce’), ynghyd ag ambell un sydd yna heddiw, fel Sue Roderick (‘Cassie’), Nia Caron (‘Anita’) a Lauren Phillips (‘Kelly’).
“Bwriad y gyfrol ydi cael 50 o atgofion gan 50 o bobol amrywiol sydd wedi gweithio ar y gyfres, o flaen y camera a thu ôl y camera, achos roedd hi’n bwysig ein bod ni’n cael llais o bob cyfeiriad sy’n rhan o’r cyfanwaith,” meddai William Gwyn, sydd wedi golygu’r llyfr gyda Dorian Morgan, ac sy’n Gynhyrchydd ac yn Olygydd ar y gyfres ers bron i 30 mlynedd, wrth Golwg.
“Rydyn ni wedi cael lleisiau o’r dechrau cynnar yna ac mae yna leisiau diweddar iawn yna hefyd. Dw i’n gobeithio bydd y cyfraniadau yn dod ag atgofion nôl i’r darllenwyr.”
Gallwch ddarllen pytiau o atgofion rhai o’r criw, gan gynnwys Gillian Elisa, yn y darn hwn yng nghylchgrawn Golwg:
Dathlu hanner canrif Pobol y Cwm
Beth yw eich uchafbwyntiau chi?
Dros yr hanner canrif, mae Cwmderi wedi gweld eu siâr o farwolaethau, priodasau, affêrs a drama.
Y 1990au sy’n sefyll allan i’r colofnydd Dylan Wyn Williams, sy’n troi’n 50 eleni hefyd, a chliffhangyr haf 1991 pan ffrwydrodd bom yng nghlwb golff Breeze Hill.
Gallwch ddarllen rhagor am uchafbwyntiau Dylan Wyn Williams yn ei Ddarn Barn i gylchgrawn Golwg yma – tybed ydych chi’n cytuno?