Bydd artistiaid o Genhedloedd Brodorol Canada yn rhannu eu cerddoriaeth a’u diwylliant mewn gŵyl yn y gogledd dros y penwythnos.

Mae Neuadd Ogwen ym Methesda yn cynnal gŵyl Mawr y Rhai Bychain ar Hydref 18 ac 19, a bydd cerddorion o Gymru, megis Plu a Catrin Finch, yn perfformio ochr yn ochr ag artistiaid o Ganada.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu er mwyn creu cysylltiad rhwng y gymuned Gymraeg a chymunedau, ieithoedd a diwylliannol brodorol a lleiafrifol eraill.

Cafodd yr ŵyl gyntaf ei chynnal yn 2022 gyda cherddorion o’r gwledydd Celtaidd, ac ar ôl egwyl yn sgil gwaith adeiladu ar Neuadd Ogwen y llynedd, mae’r penwythnos yn ôl.

‘Cysylltu efo bobol frodorol’

Syniad Dilwyn Llwyd, rheolwr Neuadd Ogwen, oedd cynnal yr ŵyl, a hynny wedi iddo fynd i gynhadledd ryngwladol i’r diwydiant cerddoriaeth yn Gran Canaria ychydig o flynyddoedd yn ôl.

Am y tro cyntaf, roedd cynhadledd WOMEX yn cynnal cyfarfod i bobol frodorol o wahanol lefydd yn y byd.

“O hwnnw fe wnes i gael y syniad o greu digwyddiad sy’n canolbwyntio ar gysylltu Cymru efo bobol frodorol o wledydd eraill yn y byd,” meddai Dilwyn Llwyd wrth golwg360.

“Y flwyddyn gyntaf, fe wnaethon ni gael artistiaid o’r gwledydd Celtaidd – roedd gennym ni artistiaid o Lydaw, yr Alban, Iwerddon a Chymru.

“Rydyn ni wedi bod yn trafod ers tua blwyddyn ynglŷn â’r syniad o ganolbwyntio ar un ardal o’r byd, a daeth y cyfle i weithio efo artistiaid brodorol o Ganada.

“Yng Nghanada, mae yna nifer o genhedloedd brodorol amrywiol, felly mae o’n ddiddorol achos mae yna gymaint o wahanol ieithoedd a diwylliannau ac yn y blaen.”

Nimkii and the Niniis

‘Meddwl am ein lle yn y byd’

Bydd y penwythnos yn dechrau nos Wener (Hydref 18), gyda’r delynores Catrin Finch a’r feiolinydd Gwyddelig Aoife Ní Bhriain yn perfformio deuawd.

Yn ymuno â nhw, bydd y grŵp drymio traddodiadol a chanu corawl Anishinaabeg, Nimkii and the Niniis.

Cafodd eu EP cyntaf ei henwebu ar gyfer Artist Brodorol Traddodiadol a Grŵp y Flwyddyn yng Ngwobrau Juno yng Nghanada yn 2022.

Catrin Finch ac Aoife Ní Bhriain

Brynhawn Sadwrn (Hydref 19), bydd cyflwyniad am ddim a thrafodaeth banel am hanes, diwylliant ac ieithoedd Brodorion Canada.

Mae’r panel yn cynnwys yr actifydd ShoShona Kish a’r cynhyrchydd Denise Bolduc o grŵp brodorol yr Anishinaabe, y cerddorion Shauit o’r grŵp Innu, Nimkii and the Niniis a Siibii o’r grŵp Cree, ynghyd â Lisa Jên.

Bydd y penwythnos yn gorffen gyda pherfformiadau gan grŵp gwerin Plu, band Shauit sy’n dod o Arfordir Gogledd Quebec ac yn artist gwerin a reggae, a’r artist pop brodorol, cwiar a thraws o Montreal, Siibii.

“Dw i’n meddwl bod o’n bwysig i ni fel Cymry feddwl am ein lle ni yn y byd, a gwneud cysylltiadau,” meddai Dilwyn Llwyd wedyn.

“Rydyn ni’n rhan o Brydain Fawr, a’r unig gymydog sydd gennym ni ydy Lloegr, ac mae yna lot o ddiffyg hyder mewn Cymreictod.

“Ond pan wyt ti’n cysylltu â diwylliannau brodorol o bob rhan yn y byd, mae o’n gwneud i chdi sylweddoli’n bod ni’n rhan o grŵp llawer mwy, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol; mae yna filoedd o ieithoedd lleiafrifol a brodorol dros y byd.

“Ond hefyd, dw i’n teimlo fod yna ddim digon o ffocws yn rhyngwladol ar ddiwylliannau ac ieithoedd brodorol a lleiafrifol.

“O fewn ieithoedd, mae yna lawer i ddysgu sydd o fudd i’r byd sydd ohoni.

“Dw i’n meddwl bod lleisiau brodorol yn bwysig ar gyfer hunaniaeth y byd.”

Shauit. Llun gan Carlos Guerra

‘Amser i ni gyd wrando’

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu mewn cydweithrediad ag International Indigenous Music Summit, Canada Council for the Arts a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

“Bydd arweinwyr ac artistiaid brodorol British Columbia, Ontario, Quebec, a’r Ynysoedd Tawel hefyd yn ymuno â ni, gan greu lle ar gyfer myfyrio, dysgu a chysylltu cyn iddynt deithio i WOMEX24 ym Manceinion,” meddai Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

“Nawr yw’r amser i ni gyd wrando a chydnabod y rôl rydyn ni wedi’i chwarae yn eu straeon.”

Mae tocynnau ar gael ar wefan Neuadd Ogwen.