Mae Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod wedi cael eu lansio fel rhan o waddol y brifwyl yn Rhondda Cynon Taf.
Mae’r gwobrau’n rhan o gynlluniau i ddathlu’r Gymraeg ymysg busnesau a chwmnïau yn nalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y flwyddyn hyd at yr Eisteddfod, a’r cyfnod yn dilyn yr ŵyl.
Bydd y gwobrau’n cael eu rhannu’n bum categori, a’r dyddiau cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener, Tachwedd 8.
Y categorïau ar gyfer y gwobrau, sy’n cael eu cyhoeddi ar Ddiwrnod Shw’mae Su’mae heddiw (dydd Mawrth, Hydref 15), yw:
- Defnydd o’r Gymraeg: gwobr i fusnes neu gwmni sydd wedi datblygu’u defnydd o’r Gymraeg a chreu cyfleoedd i staff a chwsmeriaid i ddefnyddio ein hiaith
- Defnydd gweladwy o’r Gymraeg: gwobr i fusnes neu gwmni a wnaeth ddefnydd creadigol o’r Gymraeg yn y cyfnod hyd at, yn ystod ac yn dilyn yr Eisteddfod
- Gwobr arbennig: cyfle i wobrwyo clwstwr o fusnesau sy’n cydweithio neu sydd ar un safle a ddangosodd gefnogaeth i’r Eisteddfod a’r Gymraeg
- Gwobr diolch lleol: gwobr arbennig wedi’i chyflwyno gan wirfoddolwyr lleol i ddiolch i fusnes neu gwmni a fu’n gefnogol o’r gwaith trefnu a chodi arian yn ystod y cyfnod hyd at yr Eisteddfod.
- Gwobr Croeso i’r ŵyl: cyfle i bobol sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr Eisteddfod enwebu busnes neu gwmni a ddangosodd groeso arbennig i Eisteddfodwyr yn ystod wythnos yr ŵyl.
‘Sbardun i annog defnydd o’r Gymraeg’
Fe fydd rhestr fer y gwobrau’n cael ei chyhoeddi ar Dachwedd 18 i nodi 100 niwrnod ers Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, gyda’r gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn seremoni frecwast arbennig yn y Lido ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd ar Ragfyr 5.
Partneriaeth newydd sbon rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, Helo Blod, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Ymbweru Bro sy’n gyfrifol am lansio’r gwobrau.
“Roedd yr Eisteddfod eleni ymysg y goreuon ers blynyddoedd lawer, ac roedd tref Pontypridd a’r ardal gyfan yn rhan enfawr o’i llwyddiant,” meddai Osian Rowlands, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf.
“Cafodd pawb ddaeth i’r ardal groeso ardderchog gan fusnesau a chwmnïau ar hyd a lled y dalgylch.
“Rydyn ni’n awyddus i ddathlu hyn drwy lansio’r cynllun gwobrau busnes cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio’r Eisteddfod fel y sbardun i annog rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg yn y sector preifat.
“Diolch i’r holl bartneriaid am eu hawydd i fod yn rhan o’r cynllun sy’n rhan o waddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.”
‘Hanfodol sicrhau gwaddol’
Dywed Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, fod sicrhau gwaddol i’r Eisteddfod yn “hanfodol bwysig”, a’u bod nhw’n ddiolchgar iawn i’r Fenter Iaith am eu gwaith i sicrhau rhagor o gyfleoedd i’r Gymraeg yn lleol ar ôl yr ŵyl.
“Rydyn ni hefyd yn falch iawn o’r cyfle i ddiolch i fusnesau a chwmnïau ar draws yr ardal am eu cefnogaeth ac am fod yn rhan hanfodol o lwyddiant y brifwyl eleni,” meddai.
Ychwanega Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, mai pwrpas Diwrnod Shw’mae Su’mae yw annog pawb i ddefnyddio “pa Gymraeg bynnag sydd ganddyn nhw”.
“Dyma pam ’mod i’n falch o gyflwyno’r gwobrau newydd yma sy’n dathlu awydd busnesau ardal Eisteddfod 2024 i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod yr ŵyl, ac ers hynny,” meddai’r cyn-Brif Weinidog.