Mae’r cyflwynydd Mari Grug wedi cyhoeddi ei bod hi ar fin dechrau triniaeth am ganser unwaith eto.
Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed na fydd hi ar y sgrîn “gymaint dros y misoedd nesaf” ar ôl i’r canser ddychwelyd.
“Yn anffodus mae’r canser wedi dychwelyd, a dw i ar fin dechrau ar gyfnod o gemotherapi,” meddai.
“Ond fel o’r blaen, dw i yn gobeithio gallu cario ymlaen i weithio ychydig, achos wnaeth e helpu fi gymaint tro diwethaf.
“Licen i ddiolch i chi gyd am eich cefnogaeth dros y flwyddyn a hanner diwethaf, a dw i’n gwybod y byddwch chi gyda fi eto bob cam o’r ffordd, felly amdani!”
Ry’n ni’n danfon cariad mawr atat ti Mari ac yn edrych ymlaen i dy gael di nôl ar y soffa cyn hir 💗 pic.twitter.com/ZE4nITxnD9
— Heno 🏴 (@HenoS4C) October 15, 2024
Taith ganser
Cyhoeddodd Mari Grug, sy’n wyneb a llais cyfarwydd ar raglenni Heno a Prynhawn Da, fis Gorffennaf y llynedd fod ganddi ganser y fron oedd wedi lledu i’r nodau lymff a’r afu.
Cafodd hi driniaethau ar y pryd, ac mae hi wedi siarad yn gyhoeddus am ei thaith ganser ers hynny.
Fis Mai eleni, bu’n trafod ei phrofiadau ar y podlediad Lleisiau Cymru gan y BBC.