Diffyg sgyrsiau Cymraeg am ganser roddodd yr hwb i’r gyflwynwraig Mari Grug ddechrau podlediad newydd yn trafod yr clefyd.

Cafodd Mari Grug, sy’n wyneb cyfarwydd ar Prynhawn Da, ddiagnosis o ganser y fron y llynedd ar ôl dod o hyd i lwmp yn ei bron chwith.

Roedd y canser wedi lledu i’w nodau lymff ac i’w iau, a flwyddyn ar ôl y diagnosis mae’r gyflwynwraig wedi cael dau sgan clir ar ei iau.

“Camau bach yn y cyfeiriad cywir, mae ffordd bell i fynd,” meddai wrth golwg360.

Mae hi wedi cael cemotherapi, codi’r fron a radiotherapi dros y flwyddyn ddiwethaf, meddai.

“Roedd rhywun yn dweud wrtha i bod eisiau dathlu pob newyddion bach yn y byd canser, felly dyna dw i’n ei wneud.”

Erbyn hyn, mae hi’n derbyn pigiadau bob tair wythnos er mwyn rheoli’r math o ganser sydd ganddi.

Bydd ail bennod ei phodlediad Llesiau Cymru: 1 mewn 2, sy’n gyfeiriad at y ffaith y bydd un ym mhob dau berson yn cael diagnosis o ganser ar ryw adeg yn eu bywydau, yn cael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf ar BBC Sounds.

Mari Grug a’i mam, fydd yn westai ar drydedd pennod y podlediad

Tra bo’r bennod gyntaf yn canolbwyntio ar y diagnosis, cemotherapi sydd dan sylw yn y nesaf.

“Achos bod mam wedi cael [cemotherapi], roeddwn i wedi byw gyda rhywun oedd wedi mynd drwy ond roedd hwnna 25 mlynedd yn ôl erbyn hyn,” eglura Mari Grug, gan ddweud bod ei mam wedi cael canser y fron hefyd.

“Roeddwn i’n ymwybodol o gyfnodau pan oedd hi’n sâl, bod hi lan lofft yn ei hystafell wely ac fe wnaeth mam stopio gweithio am y cyfnod.

“Doeddwn i ddim yn siŵr sut oedd e’n mynd i effeithio arna i. Roedd lot o bobol wedi dweud: ‘Efallai cymra hwn fel blwyddyn mas, bydd y driniaeth yn galed arnat ti’.

“Roeddwn i’n barod i golli fy ngwallt, fe wnes i brynu wig yn yr wythnos gyntaf ar ôl y cemotherapi.

“Ond eto dw i’n gobeithio bod y bennod yma’n newid yr ystrydeb o bobol sydd yn mynd drwy gemotherapi neu ganser – eu bod nhw heb wallt, yn gwisgo sgarff, yn teimlo’n wan ac yn methu gwneud dim.

“Nid bawb sydd eisiau delio gyda fe fel gwnes i, ond fe wnes i lwyddo i weithio ychydig drwy’r cyfnod, parhau i fod yn fam, parhau i fod yn wraig, parhau i fyw fy mywyd, roeddwn i dal i gael mynd ar fy ngwyliau yn y garafán – fe es i i Eisteddfod Boduan, ac roedd hynny ar y trydedd wythnos ar ôl cael cemotherapi.

“Mae profiad pawb yn wahanol a dyw siwrne canser neb yr un peth, a dw i ddim eisiau i’r podlediad yma fod unrhyw beth fel ‘how to’ o gwbl.”

‘Cemotherapi fel ffrind’

Roedd Mari Grug yn “eithaf parod” i wynebu cemotherapi, meddai, gan ddweud ei bod hi “ffaelu aros” i’w ddechrau unwaith gafodd hi wybod fod y canser wedi lledaenu o’r fron.

“Y cyngor gefais i gan ffrind yw bod cemotherapi fel ffrind i ti, mae e’n mynd i wneud ti’n well, mae e’n mynd i wneud ti’n sâl, ond mae e’n gam agosach at wella,” meddai.

“Roeddwn i’n gwybod gyda fi bod [y canser] yn crwydro fy nghorff i, roedd e wedi lledaenu felly roeddwn i’n ymwybodol iawn fy mod i angen e’n eithaf cyflym i’w stopio fe ac i atal y canser rhag lledu ymhellach.

“Roeddwn i ffaelu aros, roeddwn i’n rhwystredig ar ambell adeg achos roeddwn i’n gweld e’n araf yn cychwyn ond roedden nhw’n gorfod rhoi lot o brofion i fi i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gwybod beth oedden nhw’n delio gyda.”

Mari yn cael cemotherapi

Peidio bod ofn ydy ei chyngor i eraill sydd ar fin dechrau cemotherapi, neu ar ganol triniaeth ar hyn o bryd.

“Mae e’n lladd y drwg ond hefyd y da yn y corff, ond gofalwch am eich hunan.

“A chadw fynd, dyna’r cyngor gefais i gan yr oncolegydd: ‘Keep going, Mari’. A dyna beth ydw i wedi trio gwneud drwyddo fe, a gwrando ar y corff, a derbyn cymorth gan ffrindiau a theulu.

“A chyngor i rywun sydd eisiau helpu – peidiwch â gofyn beth sydd eisiau i chi wneud i helpu, ond gwnewch e.”

‘Siomedig fy mod i’n arbenigwr ar y pwnc’

Ar y podlediad, mae Mari Grug yn cael cwmni cyfeillion sydd wedi cael profiadau personol â chanser, ynghyd ag arbenigwyr meddygol.

Wrth drio dod o hyd i bodlediad Cymraeg yn fuan ar ôl cael y diagnosis cychwynnol, sylwodd nad oedd yr un yn bodoli.

“Gyda rhywbeth mor emosiynol â mynd drwy brofiad o ganser mae mor bwysig cael rhywbeth yn dy famiaith,” meddai.

“Er enghraifft, fe wnes i gyfweliad ar bodlediad gyda Hanna Hopwood y llynedd ac fe wnes i’r cyfweliad yn Gymraeg ac fe wnes i sôn am y plant a llefain yn ofnadwy, roedd o’n brofiad eithaf emosiynol. Yn Saesneg, siarad am yr un peth, a wnes i ddim colli deigryn.”

 

Karina Williams, Catrin Chapple a Mari Grug yn recordio’r ail bennod

Y bwriad oedd helpu eraill, eglura Mari Grug, gan ddweud ei bod hi’n lwcus bod ganddi nifer o ffrindiau yn y byd meddygol oedd yn barod iawn i roi cymorth a chyngor iddi dros y flwyddyn.

Un o’r rheiny oedd Catrin Chapple, partner Daf Wyn sy’n cydweithio gyda Mari Grug, sy’n gweithio fel Fferyllydd yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Mae Catrin Chapple yn ymddangos yn ail bennod 1 mewn 2 ochr yn ochr â Karina Williams, un o gymdogion Mari Grug, sydd wedi bod â chanser y fron hefyd.

Er nad ydy bob pennod yn cynnwys gweithwyr meddygol, roedd cael y cydbwysedd rhwng rhannu profiadau personol a sgwrsio ag arbenigwyr yn eu maes yn ystyriaeth wrth fynd ati i greu’r podlediad.

“Yn anffodus, ti’n dod yn arbenigwr yn dy faes di. Dw i’n hollol siomedig fy mod i’n gymwys i gyflwyno’r fath beth, ond dyna fel mae bywyd wedi troi mas i fi,” meddai Mari Grug.

“Ti ddim eisiau panicio pobol chwaith.

“Rydyn ni’n rhoi profiadau personol ac roedd hi’n bwysig i gael hynny, ond hefyd dw i’n meddwl bod e’n bwysig i gael pobol sydd o gefndir meddygol i allu tawelu nerfau a phoenau pobol.”

  • Mae pennod gyntaf 1 mewn 2 ar gael ar BBC Sounds nawr, a bydd yr ail yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun, Mehefin 10.