Mae ymgeisydd seneddol Llafur ar gyfer etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn dweud bod yr ymgyrch yn erbyn Vaughan Gething yn gyfystyr â’i “fygwth”.
Daw sylwadau Joanna Stallard ar ôl i Brif Weinidog Cymru golli pleidlais hyder yn y Senedd ddydd Mercher (Mehefin 5).
Mae e wedi bod dan bwysau i ymddiheuro a dychwelyd £200,000 o rodd i’w ymgyrch arweinyddol gan David Neal, pennaeth cwmni Dauson gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.
Mae hefyd wedi’i feirniadu am ddiswyddo Hannah Blythyn, yr Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, ar ôl honiadau ei bod hi wedi rhyddhau negeseuon am Covid-19 i’r wasg – honiadau mae hi’n eu gwadu.
Yr aelod Llafur arall sydd wedi beirniadu Vaughan Gething yn agored yw Lee Waters.
Doedd Hannah Blythyn na Lee Waters ddim yn y Senedd ar gyfer y bleidlais, ac fe gollodd y Prif Weinidog o 29 pleidlais i 27.
‘Beirniadu a chraffu’
“Mae’n rhaid i ni allu beirniadu a chraffu ar bethau dydyn ni ddim yn hoffi o fewn gwleidyddiaeth,” meddai Joanna Stallard wrth golwg360.
“Ond mae yna wahaniaeth rhwng pwyntio pethau allan a beirniadu a throi tuag at fygwth.”
Dywed nad yw helynt ariannu ymgyrch Vaughan Gething wedi codi o gwbl, bron, ar stepen drws wrth iddi ymgyrchu.
“Dw i wedi cael sgyrsiau gyda channoedd o bobol, a dw i wedi’i glywed o unwaith neu ddwywaith,” meddai.
“Mae pobol yn dioddef o ganlyniad i’r sefyllfa mae’r Torïaid wedi’u gadael nhw ynddi.
“Dydyn nhw ddim yn blaenoriaethu gwleidyddiaeth ryngbleidiol.
“Dyma mae pobol o fewn y Senedd yn meddwl sydd yn bwysig iawn i lot o bobol, ac yn defnyddio hyn fel rheswm i bwsio’r ddadl.
“Dydw i ddim yn cytuno bod y bobol dw i’n cyfarfod efo nhw yn gweld o fel hyn.
“Y peth mae pobol yn poeni amdano ydi, oes yna ddigon o arian i dalu am eu morgais, eu biliau ac ati.”
‘Pobol ddim eisiau i Vaughan Gething lwyddo’
Mewn arolwg diweddar i Barn Cymru gan YouGov, roedd 57% o boblogaeth Cymru’n credu bod Vaughan Gething yn perfformio’n wael fel Prif Weinidog.
Wrth ymateb i’r ystadegau hyn, dywed Joanna Stallard ei bod yn “siomedig” nad yw “llawer o bobol ddim eisiau i Vaughan Gething lwyddo”.
“Yn anffodus, dw i’n meddwl, wrth edrych ar amseru’r cynnig diffyg hyder – ac os ydyn nhw yn wirioneddol grac am roddion maen nhw’n eu gweld yn amheus – pam dydyn nhw ddim yn codi’r un mater yn erbyn ariannu eu plaid nhw?”
Mae’r Blaid Lafur wedi ymosod ar y Ceidwadwyr am ragrith honedig ar ôl iddyn nhw dderbyn rhodd o £5m gan Frank Hester, sydd wedi’i feirniadu am sylwadau hiliol am Diane Abbott, yr Aelod Seneddol Llafur, ar ôl dweud y “dylai hi gael ei saethu”.
“Gimic ydi’r holl beth, a dwi’n siomedig bod Plaid wedi dewis chwarae rhan mewn pleidlais diffyg hyder oherwydd maen nhw’n gwybod mai’r unig beth mae hyn yn ei wneud ydi tanseilio’r Blaid Geidwadol,” meddai Joanna Stallard.
“Ac mae’n rhaid i bobol gofio, dydi Plaid Cymru na’r Ceidwadwyr ddim eisiau i’r Blaid Lafur fod yn llwyddiannus.
“Fasen nhw ddim yn bodoli os fasen nhw eisiau i Lafur gario ymlaen i lywodraethu.
“Mae’r ffaith fod y gwrthbleidiau wedi mynnu parhau efo’r mater hwn yn tynnu sylw o bethau pwysig.
“Gwleidyddion yn chwarae gwleidyddiaeth ydi hyn.”
Yn dilyn y bleidlais ddoe, mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn galw ar Vaughan Gething i ymddiswyddo.
Mae’r Prif Weinidog bellach yn Normandy ar gyfer digwyddiad coffa glaniadau D-Day, ac mae’n mynnu ei fod yn bwriadu parhau i fod yn Brif Weinidog.