Mae Rhun ap Iorwerth wedi ad-drefnu cabinet cysgodol Plaid Cymru.
Daw’r newidiadau wrth i’r arweinydd lygadu etholiadau’r Senedd ymhen dwy flynedd.
Dywed fod ei gabinet yn “gryf ac yn unedig”, ac yn barod i gynnig “dewis amgen ffres” yn lle “Llywodraeth Lafur flinedig” sydd mewn “anhrefn llwyr”.
Daw’r ad-drefnu ar ôl i Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, golli pleidlais hyder yn ei erbyn.
Y cabinet cysgodol newydd
Yn dilyn yr ad-drefnu, dyma’r cabinet cysgodol newydd:
- Rhun ap Iorwerth – arweinydd, Cyfansoddiad a Rhyngwladol
- Delyth Jewell – dirprwy arweinydd yn y Senedd, Newid Hinsawdd
- Llŷr Gruffydd – cadeirydd y Grŵp, Amaeth a Materion Gwledig
- Heledd Fychan – Rheolwr Busnes/Cyllid, Y Gymraeg a Diwylliant
- Mabon ap Gwynfor – Prif Chwip, Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Sioned Williams – Dirprwy Chwip, Cyfiawnder Cymdeithasol a Blynyddoedd Cynnar
- Adam Price – Comisiynydd y Senedd, Cyfiawnder a Materion Ewropeaidd
- Peredur Owen Griffiths – Llywodraeth Leol a Thrafnidiaeth
- Luke Fletcher – Economi ac Ynni
- Siân Gwenllian – Tai a Chynllunio
- Cefin Campbell – Addysg
‘Tîm cryf, unedig a dawnus’
“Mae’n bleser gen i gyhoeddi cabinet cysgodol newydd Plaid Cymru – tîm cryf, unedig a dawnus sydd wedi ymrwymo i gyflwyno polisïau uchelgeisiol i newid bywydau pobl er gwell,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Wrth i ni ddechrau edrych ymlaen at etholiad 2026, mae Plaid Cymru yn cynnig dewis arall ffres i’r Llywodraeth Lafur flinedig yma sydd mewn anhrefn llwyr gyda Phrif Weinidog yn glynu wrth rym er iddo golli ei fandad i arwain.
“Rydyn ni’n gwybod nad yw hyn cystal ag y gall pethau fod i Gymru. Rwy’n credu yn y dyfodol y gal ein cenedl ei chael gyda llywodraeth sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu ein cymunedau.
“Boed yn addysg eich plentyn, y pwysau ar y gwasanaeth iechyd, neu ffyniant eich busnes, mae gan Blaid Cymru weledigaeth sy’n cynnig gobaith newydd – edrychaf ymlaen at weithio i wireddu’r weledigaeth honno ochr yn ochr â’n Cabinet Cysgodol cyn Etholiad y Senedd yn 2026.”
‘Llais Cymru’
Yn y cyfamser, mae Leanne Wood yn dweud mai Rhun ap Iorwerth fydd “llais Cymru” mewn dadl deledu rhwng arweinwyr gwleidyddol y pleidiau heno (nos Wener, Mehefin 7).
Cyn-arweinydd Plaid Cymru oedd wedi cynrychioli’r Blaid yn y dadleuon teledu cyntaf yn 2015, gan ddod i amlygrwydd a chreu enw iddi hi ei hun drwy wledydd Prydain, wrth iddi ddadlau dros ariannu teg ac agenda gymdeithasol fwy blaengar i Gymru.
Bryd hynny, heriodd hi Nigel Farage, sydd bellach yn arwain Reform UK, ar ei agwedd tuag at fewnfudwyr.
Y tro hwn, dywed Rhun ap Iorwerth ei fod yn edrych ymlaen at hyrwyddo gwledigaeth uchelgeisiol Plaid Cymru ar gyfer dyfodol Cymru, ac at ddwyn Llafur a’r Ceidwadwyr i gyfrif am eu methiant hanesyddol i sicrhau cyllid teg i Gymru a chymryd pleidleiswyr Cymreig yn ganiataol am gyfnod rhy hir.
Mae’n feirniadol o Rishi Sunak a Syr Keir Starmer am “guddio o’r stiwdios teledu” drwy anfon cynrychiolwyr eraill i gymryd rhan yn y ddadl ar eu rhan.
“Rhoddodd y dadleuon gafodd eu darlledu cyn yr etholiad yn 2015 lwyfan digynsail i Blaid Cymru gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a rhoi i’n cenedl y ffocws y mae’n ei haeddu yng nghyfryngau’r Deyrnas Unedig,” meddai Leanne Wood.
“Roeddwn i’n falch o gymryd rhan yn y dadleuon hynny i wneud yr achos dros ariannu teg a chymdeithas fwy blaengar, a gwn mai Rhun fydd llais Cymru ar y llwyfan hwnnw yfory hefyd.
“Rwy’n gwybod y bydd Rhun yn defnyddio pob cyfle i osod gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru, gan herio 14 mlynedd o reolaeth drychinebus gan y Ceidwadwyr a dwyn Llafur i gyfrif am gymryd pleidleiswyr Cymru yn ganiataol.”
Dywed Rhun ap Iorwerth ei fod yn “edrych ymlaen at ddilyn ôl traed arweinwyr Plaid Cymru yn cynrychioli buddiannau gorau Cymru yn ystod y dadleuon gaiff eu darlledu ar y teledu”.
“Rwy’n edrych ymlaen at hyrwyddo gweledigaeth Plaid Cymru o ddyfodol tecach, mwy uchelgeisiol i’n cenedl lle mae gan ein gwasanaethau cyhoeddus y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i roi’r gofal maen nhw’n ei haeddu i’n cymunedau,” meddai.
“Mae’n anghredadwy bod Keir Starmer a Rishi Sunak yn teimlo eu bod nhw’n gallu dewis pryd i ymddangos ochr yn ochr ag arweinwyr eraill.
“Gallan nhw guddio rhag y stiwdios teledu, ond ni allan nhw guddio rhag record eu pleidiau o esgeuluso anghenion Cymru, a byddaf yn eu dwyn i gyfrif am hynny yn ystod y ddadl ddydd Gwener.”
Bydd Penny Mordaunt yn cynrychioli’r Ceidwadwyr, ac Angela Rayner yn cynrychioli Llafur.
Yr arweinwyr eraill yn y ddadl fydd Daisy Cooper (Democratiaid Rhyddfrydol), Stephen Flynn (SNP), Carla Denyer (y Blaid Werdd) a Nigel Farage (Reform UK).
Mishal Husain fydd yn llywio’r ddadl rhwng 7.30-9yh ar BBC1 heno (nos Wener, Mehefin 7).