Ar drothwy’r etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymrwymo i warchod afonydd ac arfordiroedd rhag carthion yn cael eu gollwng.
Cafodd carthion eu gollwng dros 83,000 o weithiau yn nyfroedd Cymru y llynedd, gan gynnwys 7,888 o achosion mewn dŵr nofio.
Dywed y blaid nad yw Dŵr Cymru wedi bod yn cofnodi achosion o ollwng carthion ers 2021.
Yn ôl addewid y blaid i gyflwyno’r “maniffesto mwyaf ar lanhau ein hafonydd a’n harfordiroedd”, byddai afonydd yn derbyn statws gwarchodedig newydd yn erbyn gollwng carthion, wrth iddyn nhw ddweud nad oes sylwedd i’r polisi presennol.
Maniffesto
Daw’r cyhoeddiad wrth iddyn nhw addo estyniad enfawr i ardaloedd morol gwarchodedig a statws Baner Las newydd ar gyfer afonydd.
Byddai cynllun y Faner Las yn gosod targedau i atal carthion rhag cael eu gollwng ar safleoedd sy’n anelu am y statws, a byddai ganddyn nhw statws arbennig i warchod pobol sy’n nofio a bywyd gwyllt.
Yn ôl y blaid, dydy’r cynllun dŵr nofio presennol ddim wedi atal dyfroedd rhag carthion, gan mai profi dŵr yn unig sydd ei angen ar hyn o bryd.
Mae’r blaid hefyd am ehangu’r Ardaloedd Morol Gwarchodedig, wrth iddyn nhw ddweud fod yna argyfwng i gynefinoedd ar hyn o bryd o ganlyniad i garthion a phlastig.
‘Fandaliaeth amgylcheddol’
“Mae ein hafonydd ac arfordiroedd arbennig wedi cael eu dinistrio ar ôl blynyddoedd o Lywodraeth Geidwadol yn galluogi fandaliaeth amgylcheddol gan gwmnïau dŵr,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.
“Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Lafur Cymru ym Mae Caerdydd hefyd wedi methu â defnyddio’r pwerau sydd ganddyn nhw wrth law i fynd i’r afael â’r mater.
“Mae’n hen bryd i ni fynd yn llym ar lygru a chwmnïau dŵr sy’n gwneud elw mawr.
“Mae Aelodau Seneddol Ceidwadol a Gweinidogion Llafur wedi sefyll yn segur tra bod pobol sy’n nofio wedi mynd yn sâl a bywyd gwyllt yn cael ei ladd gan garthion sydd wedi’u gollwng.
“Rhaid i’r sgandal yma ddod i ben rŵan.
“Bydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol y maniffesto mwyaf beiddgar ar lanhau ein hafonydd a’n harfordiroedd.
“Dylai teuluoedd fod yn rhydd i nofio’n ddiogel gan wybod nad yw ein dyfroedd wedi’u llygru gan garthion.”